Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philipiaid 2:5-18

Philipiaid 2:5-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu: Roedd e’n rhannu’r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol – roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn. Yna diraddio ei hun fwy fyth, a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw – ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes. Felly dyma Duw yn ei ddyrchafu i’r safle uchaf; a rhoi’r enw pwysica un iddo! Bydd pob glin yn plygu i enw Iesu – pawb yn y nefoedd, ar y ddaear, a than y ddaear; a bydd pawb yn cydnabod mai Iesu Grist ydy’r Arglwydd, ac yn rhoi clod i Dduw y Tad. Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chi’n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, mae’n bwysicach fyth eich bod chi’n ufudd pan dw i’n absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned. Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu’r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy’n ei blesio fe. Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo, er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr wrth i chi rannu’r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i’n gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i’n gwybod na fuodd yr holl redeg a’r gwaith caled yn wastraff amser. Mae’n bosib iawn y bydda i’n marw fel merthyr, a’m gwaed i’n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi’n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i’n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi. A dylech chithau hefyd fod yn hapus, i mi gael rhannu eich llawenydd chi.

Philipiaid 2:5-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu. Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio, ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O'i gael ar ddull dyn, fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes. Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo'r enw sydd goruwch pob enw, fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad. Gan hynny, fy nghyfeillion annwyl, fel y buoch bob amser yn ufudd, felly yn awr, nid yn unig fel pe bawn yn bresennol, ond yn fwy o lawer gan fy mod yn absennol, gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy'n eiddo ichwi; oblegid Duw yw'r un sydd yn gweithio ynoch i beri ichwi ewyllysio a gweithredu i'w amcanion daionus ef. Gwnewch bopeth heb rwgnach nac ymryson; byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd, yn cyflwyno gair y bywyd. Felly byddwch yn destun ymffrost i mi yn Nydd Crist, na fu imi redeg y ras yn ofer na llafurio yn ofer. Ond os tywelltir fy mywyd i yn ddiodoffrwm ac yn aberth er mwyn eich ffydd chwi, yr wyf yn llawen, ac yn cydlawenhau â chwi i gyd. Yn yr un modd byddwch chwithau'n llawen, a chydlawenhewch â mi.