Philipiaid 2:5-11
Philipiaid 2:5-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu: Roedd e’n rhannu’r un natur â Duw, heb angen ceisio gwneud ei hun yn gydradd â Duw; ond dewisodd roi ei hun yn llwyr i wasanaethu eraill, a gwneud ei hun yn gaethwas, a dod aton ni fel person dynol – roedd yn amlwg i bawb ei fod yn ddyn. Yna diraddio ei hun fwy fyth, a bod yn ufudd, hyd yn oed i farw – ie, drwy gael ei ddienyddio ar y groes. Felly dyma Duw yn ei ddyrchafu i’r safle uchaf; a rhoi’r enw pwysica un iddo! Bydd pob glin yn plygu i enw Iesu – pawb yn y nefoedd, ar y ddaear, a than y ddaear; a bydd pawb yn cydnabod mai Iesu Grist ydy’r Arglwydd, ac yn rhoi clod i Dduw y Tad.
Philipiaid 2:5-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu. Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio, ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O'i gael ar ddull dyn, fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes. Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo'r enw sydd goruwch pob enw, fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.
Philipiaid 2:5-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu: Yr hwn, ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw; Eithr efe a’i dibrisiodd ei hun, gan gymryd arno agwedd gwas, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion: A’i gael mewn dull fel dyn, efe a’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau’r groes. Oherwydd paham, Duw a’i tra-dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw; Fel yn enw Iesu y plygai pob glin, o’r nefolion, a’r daearolion, a thanddaearolion bethau; Ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad.