Philipiaid 2:3-5
Philipiaid 2:3-5 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi’ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill. Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain. Dylai eich agwedd chi fod yr un fath ag agwedd y Meseia Iesu
Philipiaid 2:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun. Bydded gofal gan bob un ohonoch, nid am eich buddiannau eich hunain yn unig ond am fuddiannau pobl eraill hefyd. Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu.
Philipiaid 2:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain. Nac edrychwch bob un ar yr eiddoch eich hunain, eithr pob un ar yr eiddo eraill hefyd. Canys bydded ynoch y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd yng Nghrist Iesu