Philipiaid 2:15-16
Philipiaid 2:15-16 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr wrth i chi rannu’r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i’n gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i’n gwybod na fuodd yr holl redeg a’r gwaith caled yn wastraff amser.
Philipiaid 2:15-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd, yn cyflwyno gair y bywyd. Felly byddwch yn destun ymffrost i mi yn Nydd Crist, na fu imi redeg y ras yn ofer na llafurio yn ofer.
Philipiaid 2:15-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd; Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer.