Philipiaid 2:12-18
Philipiaid 2:12-18 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly, ffrindiau annwyl, fel roeddech chi’n ufudd pan oeddwn i acw gyda chi, mae’n bwysicach fyth eich bod chi’n ufudd pan dw i’n absennol. Gyda pharch a defosiwn i Dduw daliwch ati i weithio ar eich iechyd ysbrydol fel cymuned. Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi, yn creu’r awydd ynoch chi ac yn eich galluogi chi i wneud beth sy’n ei blesio fe. Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo, er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai yng nghanol cymdeithas o bobl droëdig ac ystyfnig. Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr wrth i chi rannu’r neges am y bywyd newydd gydag eraill. Wedyn pan ddaw y Meseia yn ôl, bydda i’n gallu bod yn falch ohonoch chi. Bydda i’n gwybod na fuodd yr holl redeg a’r gwaith caled yn wastraff amser. Mae’n bosib iawn y bydda i’n marw fel merthyr, a’m gwaed i’n cael ei dywallt fel diodoffrwm ar aberth y gwasanaeth ffyddlon dych chi’n ei gyflwyno i Dduw. Os mai dyna sydd i ddigwydd, dw i’n hapus, ac am rannu fy llawenydd gyda chi. A dylech chithau hefyd fod yn hapus, i mi gael rhannu eich llawenydd chi.
Philipiaid 2:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan hynny, fy nghyfeillion annwyl, fel y buoch bob amser yn ufudd, felly yn awr, nid yn unig fel pe bawn yn bresennol, ond yn fwy o lawer gan fy mod yn absennol, gweithredwch, mewn ofn a dychryn, yr iachawdwriaeth sy'n eiddo ichwi; oblegid Duw yw'r un sydd yn gweithio ynoch i beri ichwi ewyllysio a gweithredu i'w amcanion daionus ef. Gwnewch bopeth heb rwgnach nac ymryson; byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd, yn cyflwyno gair y bywyd. Felly byddwch yn destun ymffrost i mi yn Nydd Crist, na fu imi redeg y ras yn ofer na llafurio yn ofer. Ond os tywelltir fy mywyd i yn ddiodoffrwm ac yn aberth er mwyn eich ffydd chwi, yr wyf yn llawen, ac yn cydlawenhau â chwi i gyd. Yn yr un modd byddwch chwithau'n llawen, a chydlawenhewch â mi.
Philipiaid 2:12-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, fy anwylyd, megis bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn. Canys Duw yw’r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o’i ewyllys da ef. Gwnewch bob dim heb rwgnach ac ymddadlau; Fel y byddoch ddiargyhoedd a diniwed, yn blant difeius i Dduw, yng nghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, ymhlith y rhai yr ydych yn disgleirio megis goleuadau yn y byd; Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nydd Crist, na redais yn ofer, ac na chymerais boen yn ofer. Ie, a phe’m hoffrymid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau yr wyf, a chydlawenhau â chwi oll. Oblegid yr un peth hefyd byddwch chwithau lawen, a chydlawenhewch â minnau.