Philipiaid 2:1-3
Philipiaid 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw apêl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi, cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn. Peidiwch â gwneud dim o gymhellion hunanol nac o ymffrost gwag, ond mewn gostyngeiddrwydd bydded i bob un ohonoch gyfrif y llall yn deilyngach nag ef ei hun.
Philipiaid 2:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os ydy perthyn i’r Meseia yn anogaeth o unrhyw fath i chi; os ydy ei gariad o unrhyw gysur i chi; os ydy’r Ysbryd yn eich clymu chi’n un, ac yn eich gwneud yn llawn tosturi ac yn garedig – yna gwnewch fi’n wirioneddol hapus drwy rannu’r un agwedd meddwl, dangos cariad at eich gilydd, a bod yn un o ran ysbryd a phwrpas. Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi’ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill.
Philipiaid 2:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Od oes gan hynny ddim diddanwch yng Nghrist, od oes dim cysur cariad, od oes dim cymdeithas yr Ysbryd, od oes dim ymysgaroedd a thosturiaethau, Cyflawnwch fy llawenydd; fel y byddoch yn meddwl yr un peth, a’r un cariad gennych, yn gytûn, yn synied yr un peth. Na wneler dim trwy gynnen neu wag ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied eich gilydd yn well na chwi eich hunain.