Philipiaid 1:9-11
Philipiaid 1:9-11 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yr hyn dw i’n ei weddïo drosoch chi ydy y bydd eich cariad chi’n mynd o nerth i nerth, ac y byddwch chi’n tyfu yn eich dealltwriaeth o’r gwirionedd a’ch gallu i benderfynu beth sy’n iawn. Dw i eisiau i chi ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser, a byw yn gwbl onest a di-fai nes i’r Meseia ddod yn ôl. Bydd hynny’n dangos eich bod chi wedi’ch achub! Bydd yn dangos canlyniad gwaith Iesu Grist yn eich bywydau, ac wedyn bydd Duw yn cael ei fawrygu a’i foli.
Philipiaid 1:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma fy ngweddi, ar i'ch cariad gynyddu fwyfwy eto mewn gwybodaeth a phob dirnadaeth, er mwyn ichwi allu cymeradwyo'r hyn sy'n rhagori, a bod yn ddidwyll a didramgwydd erbyn Dydd Crist, yn gyflawn o ffrwyth y cyfiawnder sy'n dod trwy Iesu Grist, er gogoniant a mawl i Dduw.
Philipiaid 1:9-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hyn yr wyf yn ei weddïo, ar amlhau o’ch cariad chwi eto fwyfwy mewn gwybodaeth a phob synnwyr; Fel y profoch y pethau sydd â gwahaniaeth rhyngddynt; fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Crist; Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.