Philipiaid 1:3-6
Philipiaid 1:3-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bob tro dw i’n meddwl amdanoch chi dw i’n diolch i Dduw am bob un ohonoch chi. Dw i’n gweddïo’n daer drosoch chi, ac yn teimlo mor llawen wrth wneud hynny, am eich bod chi o’r dechrau cyntaf wedi bod yn bartneriaid i mi yn y gwaith o rannu’r newyddion da. Felly dw i’n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl.
Philipiaid 1:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch, a phob amser ym mhob un o'm gweddïau dros bob un ohonoch, yr wyf yn gweddïo gyda llawenydd. Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr Efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr; ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu.
Philipiaid 1:3-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist