Philipiaid 1:21-30
Philipiaid 1:21-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw. Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis. Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell; ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi. Rwy'n gwybod hyn i sicrwydd: aros a wnaf, a phara i aros gyda chwi oll, i hyrwyddo eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd, er mwyn ichwi ymffrostio fwyfwy, yng Nghrist Iesu, o'm hachos i pan ddof yn ôl atoch. Yn anad dim, bydded eich buchedd yn deilwng o Efengyl Crist, er mwyn imi weld, os dof atoch, neu glywed amdanoch, os byddaf yn absennol, eich bod yn sefyll yn gadarn, yn un o ran ysbryd, gan gydymdrechu yn unfryd dros ffydd yr Efengyl, heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr. Bydd hyn yn arwydd eglur i'r rheini o'u distryw hwy, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddi wrth Dduw. Oherwydd rhoddwyd i chwi y fraint, nid yn unig o gredu yng Nghrist ond hefyd o ddioddef drosto, gan ymdaflu i'r frwydr honno y gwelsoch fi ynddi, ac yr ydych yn awr yn clywed fy mod ynddi o hyd.
Philipiaid 1:21-30 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
I mi, y Meseia ydy holl ystyr a phwrpas byw, a dw i’n ennill hyd yn oed os bydda i’n cael fy lladd! Ond wedyn ar y llaw arall, os ca i fyw bydda i’n gallu dal ati i weithio dros y Meseia Iesu. Beth fyddwn i’n ei ddewis fy hun? Dw i ddim yn gwybod! Dw i’n cael fy nhynnu’r naill ffordd a’r llall: Dw i’n dyheu am gael gadael y byd yma i fod gyda’r Meseia am byth – dyna’n sicr ydy’r peth gorau allai ddigwydd i mi, o bell ffordd! Ond mae’n well o lawer i chi os ca i aros yn fyw. O feddwl am y peth, dw i’n reit siŵr y bydda i’n aros, i’ch helpu chi i dyfu a phrofi’r llawenydd sydd i’w gael o gredu yn y Meseia. Felly pan fydda i’n dod atoch chi eto, bydd gynnoch chi fwy fyth o reswm i frolio am y Meseia Iesu. Ond beth bynnag fydd yn digwydd i mi, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dal ati i ymddwyn mewn ffordd sy’n dangos fod y newyddion da am y Meseia yn wir. Wedyn, os bydda i’n dod i’ch gweld chi neu beidio, byddwch chi’n sefyll yn gadarn ac yn brwydro’n galed gyda’ch gilydd dros y newyddion da. Peidiwch bod ag ofn y bobl hynny sy’n eich erbyn chi. Bydd hyn i gyd yn arwydd iddyn nhw y byddan nhw’n cael eu dinistrio, ond y cewch chi eich achub – a hynny gan Dduw. Eich braint chi ydy dim yn unig credu yn y Meseia, ond hefyd cael dioddef drosto. Dych chi’n wynebu yn union yr un frwydr weloch chi fi’n ei hymladd! A dw i’n dal yn ei chanol hi fel dych chi’n gweld.
Philipiaid 1:21-30 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw. Ac os byw fyddaf yn y cnawd, hyn yw ffrwyth fy llafur: a pha beth a ddewisaf, nis gwn. Canys y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu, gan fod gennyf chwant i’m datod, ac i fod gyda Christ; canys llawer iawn gwell ydyw. Eithr aros yn y cnawd sydd fwy angenrheidiol o’ch plegid chwi. A chennyf yr hyder hwn, yr wyf yn gwybod yr arhosaf ac y cyd-drigaf gyda chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd; Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yng Nghrist Iesu o’m plegid i, trwy fy nyfodiad i drachefn atoch. Yn unig ymddygwch yn addas i efengyl Crist; fel pa un bynnag a wnelwyf ai dyfod a’ch gweled chwi, ai bod yn absennol, y clywyf oddi wrth eich helynt chwi, eich bod yn sefyll yn un ysbryd, ag un enaid, gan gydymdrech gyda ffydd yr efengyl; Ac heb eich dychrynu mewn un dim, gan eich gwrthwynebwyr: yr hyn iddynt hwy yn wir sydd arwydd sicr o golledigaeth, ond i chwi o iachawdwriaeth, a hynny gan Dduw. Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi er Crist, nid yn unig gredu ynddo ef, ond hefyd ddioddef erddo ef; Gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi.