Philipiaid 1:15-18
Philipiaid 1:15-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae’n wir mai cenfigen a chystadleuaeth sy’n ysgogi rhai i gyhoeddi’r neges am y Meseia, ond mae eraill sy’n gwneud hynny am y rhesymau iawn. Cariad sy’n eu hysgogi nhw, ac maen nhw’n gwybod mod i yn y carchar i amddiffyn y newyddion da. Tynnu sylw atyn nhw eu hunain mae’r grŵp cyntaf – dŷn nhw ddim o ddifri. Yr unig beth maen nhw eisiau ydy gwneud pethau’n anodd i mi tra dw i yn y carchar. Ond pa wahaniaeth? Beth bynnag ydy eu rhesymau nhw, y peth pwysig ydy bod y neges am y Meseia yn cael ei chyhoeddi! Mae hynny’n fy ngwneud i’n hapus. A hapus fydda i hefyd!
Philipiaid 1:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae'n wir fod rhai yn pregethu Crist o genfigen a chynnen, ac eraill o ewyllys da. O gariad y mae'r rhain yn cyhoeddi Crist, gan wybod mai i amddiffyn yr Efengyl y gosodwyd fi yma, ond y mae'r lleill yn gwneud hynny o gymhellion hunanol ac amhur, gan feddwl peri gofid imi yng ngharchar. Ond pa waeth? Y naill ffordd neu'r llall, p'run ai mewn rhith ynteu mewn gwirionedd, y mae Crist yn cael ei gyhoeddi, ac yr wyf yn gorfoleddu yn hyn. Ie, a gorfoleddu a wnaf hefyd
Philipiaid 1:15-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae rhai yn wir yn pregethu Crist trwy genfigen ac ymryson; a rhai hefyd o ewyllys da. Y naill sydd yn pregethu Crist o gynnen, nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i’m rhwymau i: A’r lleill o gariad, gan wybod mai er amddiffyn yr efengyl y’m gosodwyd. Beth er hynny? eto ym mhob modd, pa un bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Crist: ac yn hyn yr ydwyf fi yn llawen, ie, a llawen fyddaf.