Philipiaid 1:1-8
Philipiaid 1:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Llythyr gan Paul a Timotheus – gweision i’r Meseia Iesu. At bawb yn Philipi sy’n bobl i Dduw ac yn perthyn i’r Meseia Iesu, ac at yr arweinwyr a’r rhai sy’n gwasanaethu yn yr eglwys: Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. Bob tro dw i’n meddwl amdanoch chi dw i’n diolch i Dduw am bob un ohonoch chi. Dw i’n gweddïo’n daer drosoch chi, ac yn teimlo mor llawen wrth wneud hynny, am eich bod chi o’r dechrau cyntaf wedi bod yn bartneriaid i mi yn y gwaith o rannu’r newyddion da. Felly dw i’n hollol sicr y bydd Duw, sydd wedi dechrau gwneud pethau mor wych yn eich plith chi, yn dal ati nes bydd wedi gorffen ei waith ar y diwrnod y bydd y Meseia Iesu yn dod yn ôl. Dych chi’n sbesial iawn yn fy ngolwg i, felly mae’n naturiol mod i’n teimlo fel hyn amdanoch chi. Dim ots os ydw i’n y carchar neu â nhraed yn rhydd, dych chi bob amser wedi fy helpu i wneud y gwaith mae Duw wedi’i roi i mi – sef y gwaith o amddiffyn a rhannu’r newyddion da am Iesu y Meseia. Dim ond Duw sy’n gwybod gymaint o hiraeth sydd gen i amdanoch chi – dw i’n eich caru chi fel mae’r Meseia Iesu ei hun yn eich caru chi!
Philipiaid 1:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paul a Timotheus, gweision Crist Iesu, at yr holl saint yng Nghrist Iesu sydd yn Philipi, ynghyd â'r arolygwyr a'r diaconiaid. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist. Byddaf yn diolch i'm Duw bob tro y byddaf yn cofio amdanoch, a phob amser ym mhob un o'm gweddïau dros bob un ohonoch, yr wyf yn gweddïo gyda llawenydd. Diolch y byddaf am eich partneriaeth yn yr Efengyl o'r dydd cyntaf hyd yn awr; ac yr wyf yn sicr o hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd waith da ynoch ei gwblhau erbyn Dydd Crist Iesu. Felly y mae'n iawn imi deimlo hyn amdanoch i gyd, am fy mod mor hoff ohonoch, ac am eich bod i gyd yn cyfranogi o'r fraint sy'n dod i'm rhan, pan fyddaf yng ngharchar yn ogystal â phan fyddaf yn amddiffyn yr Efengyl neu yn ei chadarnhau. Oblegid y mae Duw'n dyst i mi, gymaint yr wyf yn hiraethu, â dyhead Crist Iesu ei hun, am bawb ohonoch.
Philipiaid 1:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Paul a Thimotheus, gweision Iesu Grist, at yr holl saint yng Nghrist Iesu y rhai sydd yn Philipi, gyda’r esgobion a’r diaconiaid: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a’r Arglwydd Iesu Grist. I’m Duw yr ydwyf yn diolch ym mhob coffa amdanoch, Bob amser ym mhob deisyfiad o’r eiddof drosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyda llawenydd, Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr efengyl, o’r dydd cyntaf hyd yr awr hon; Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i’r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orffen hyd ddydd Iesu Grist: Megis y mae’n iawn i mi synied hyn amdanoch oll, am eich bod gennyf yn fy nghalon, yn gymaint â’ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ag yn fy amddiffyn a chadarnhad yr efengyl, yn gyfranogion â mi o ras. Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Iesu Grist.