Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Philemon 1:8-19

Philemon 1:8-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyna pam dw i am ofyn ffafr i ti. Gallwn i siarad yn blaen a dweud wrthot ti beth i’w wneud, gan bod yr awdurdod wedi’i roi i mi gan y Meseia. Ond am fy mod i’r math o berson ydw i – Paul yr hen ddyn bellach, ac yn y carchar dros achos y Meseia Iesu – mae’n well gen i apelio atat ti ar sail cariad. Dw i’n apelio ar ran Onesimws, sydd fel mab i mi yn y ffydd. Ydw, dw i wedi’i arwain e i gredu tra dw i wedi bod yma yn y carchar. ‘Defnyddiol’ ydy ystyr ei enw, ac mae’n haeddu’r enw bellach, er mai ‘diwerth’ fyddai’r enw gorau iddo o’r blaen. A bellach mae’n ddefnyddiol i mi yn ogystal ag i ti. Er ein bod ni wedi dod yn ffrindiau mor glòs dw i’n ei anfon yn ôl atat ti. Byddwn i wrth fy modd yn ei gadw yma, iddo fy helpu i ar dy ran di tra dw i mewn cadwyni dros y newyddion da. Ond dy ddewis di fyddai hynny a byddai’n rhaid i ti gytuno – dw i ddim am dy orfodi di i wneud dim byd. Mae’n bosib mai’r rheswm pam gawsoch chi eich gwahanu am ychydig oedd er mwyn i ti ei gael yn ôl am byth! Dim fel caethwas o hyn ymlaen, ond yn llawer gwell na hynny – fel ffrind annwyl sy’n credu yn Iesu Grist yr un fath â ti. Mae wedi bod yn werthfawr iawn i mi, ond bydd yn fwy gwerthfawr fyth i ti, fel gwas ac fel brawd sydd fel ti yn credu yn yr Arglwydd. Felly os wyt ti’n cyfri dy fod yn bartner i mi, rho’r un croeso i Onesimws ag a fyddet ti’n ei roi i mi. Os gwnaeth e unrhyw ddrwg i ti neu os oes arno rywbeth i ti, gwnaf i ei dalu’n ôl i ti. Dw i’n ysgrifennu’r peth ac yn ei lofnodi fy hun: Gwna i ei dalu yn ôl, Paul. (Gobeithio bod dim rhaid i mi dy atgoffa di fod arnat ti dy fywyd i mi!)