Obadeia 1:15-17
Obadeia 1:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; daw ar yr holl genhedloedd. Fel y gwnaethost ti y gwneir i ti; fe ddychwel dy weithredoedd ar dy ben dy hun. Fel yr yfaist ar fy mynydd sanctaidd, fe yf yr holl genhedloedd yn ddi-baid; yfant a llowciant, a mynd yn anymwybodol.” “Ond ym Mynydd Seion bydd rhai dihangol a fydd yn sanctaidd; meddianna tŷ Jacob ei eiddo'i hun.
Obadeia 1:15-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydy, mae diwrnod yr ARGLWYDD yn agos, a bydda i’n barnu’r cenhedloedd i gyd. Byddi’n diodde beth wnest ti i eraill; cei dy dalu’n ôl am beth gafodd ei wneud. Fel y gwnaethoch chi yfed ar y mynydd sydd wedi’i gysegru i mi, bydd y gwledydd i gyd yn yfed ac yfed – yfed nes byddan nhw’n chwil. Bydd fel petaen nhw erioed wedi bodoli. Ond ar Fynydd Seion bydd rhai yn dianc – bydd yn lle cysegredig eto. Bydd teulu Jacob yn ennill y tir yn ôl oddi ar y rhai wnaeth ei gymryd oddi arnyn nhw.
Obadeia 1:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys agos yw dydd yr ARGLWYDD ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun. Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, a llyncant, a byddant fel pe na buasent. Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt.