Numeri 35:11-12
Numeri 35:11-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
yr ydych i neilltuo i chwi eich hunain ddinasoedd i fod yn ddinasoedd noddfa, er mwyn i'r lleiddiad, a laddodd rywun yn anfwriadol, gael ffoi iddynt. Bydd y dinasoedd yn noddfa rhag y dialydd, fel na chaiff y lleiddiad ei ladd cyn iddo sefyll ei brawf o flaen y cynulliad.
Numeri 35:11-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
rhaid i chi ddarparu rhai trefi yn drefi lloches. Bydd rhywun sydd wedi lladd person arall drwy ddamwain yn gallu dianc yno. Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc rhag perthynas yr un gafodd ei ladd, sydd am ddial. Ddylai’r lladdwr ddim cael ei ladd cyn sefyll ei brawf o flaen y bobl.
Numeri 35:11-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd. A’r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dialydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo gerbron y gynulleidfa mewn barn.