Numeri 14:6-9
Numeri 14:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dechreuodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a fu'n ysbïo'r wlad, rwygo'u dillad, a dweud wrth holl gynulliad pobl Israel, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn wlad dda iawn. Os bydd yr ARGLWYDD yn fodlon arnom, fe'n harwain i mewn i'r wlad hon sy'n llifeirio o laeth a mêl, a'i rhoi inni. Ond peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a pheidiwch ag ofni trigolion y wlad, oherwydd byddant yn ysglyfaeth i ni. Y mae'r ARGLWYDD gyda ni, ond y maent hwy yn ddiamddiffyn; felly peidiwch â'u hofni.”
Numeri 14:6-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma ddau o’r arweinwyr oedd wedi bod yn archwilio’r wlad – sef Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne – yn rhwygo’u dillad. A dyma nhw’n dweud wrth bobl Israel, “Mae’r wlad buon ni’n edrych arni yn wlad fendigedig! Os ydy’r ARGLWYDD yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi’r wlad i ni. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Felly, peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD! A pheidiwch bod ag ofn y bobl sy’n byw yn y wlad. Ni fydd yn eu bwyta nhw! Does ganddyn nhw ddim gobaith! Mae’r ARGLWYDD gyda ni! Felly peidiwch bod â’u hofn nhw.”
Numeri 14:6-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbiwyr y tir, a rwygasant eu dillad; Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth. Os yr ARGLWYDD sydd fodlon i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl. Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr ARGLWYDD, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r ARGLWYDD sydd gyda ni: nac ofnwch hwynt.