Numeri 14:11-45
Numeri 14:11-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Am ba hyd y bydd y bobl hyn yn fy nilorni? Ac am ba hyd y byddant yn gwrthod credu ynof, er yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? Trawaf hwy â haint a'u gwasgaru, ond fe'th wnaf di'n genedl fwy a chryfach na hwy.” Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Oni ddaw'r Eifftiaid i glywed am hyn, gan mai o'u plith hwy y daethost â'r bobl yma allan â'th nerth dy hun? Ac oni ddywedant hwy wrth drigolion y wlad hon? Y maent wedi clywed dy fod di, ARGLWYDD, gyda'r bobl hyn, ac yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl yn aros drostynt, a'th fod yn eu harwain mewn colofn o niwl yn y dydd a cholofn o dân yn y nos. Yn awr, os lleddi'r bobl hyn ag un ergyd, bydd y cenhedloedd sydd wedi clywed sôn amdanat yn dweud, ‘Lladdodd yr ARGLWYDD y bobl hyn yn yr anialwch am na fedrai ddod â hwy i'r wlad y tyngodd lw ei rhoi iddynt.’ Felly erfyniaf ar i nerth yr ARGLWYDD gynyddu, fel yr addewaist pan ddywedaist, ‘Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ac yn llawn o drugaredd, yn maddau drygioni a gwrthryfel; eto, heb adael yr euog yn ddi-gosb, y mae'n cosbi'r plant am droseddau'r tadau hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.’ Yn ôl dy drugaredd fawr, maddau ddrygioni'r bobl hyn, fel yr wyt wedi maddau iddynt o ddyddiau'r Aifft hyd yn awr.” Atebodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi maddau iddynt, yn ôl dy ddymuniad; ond yn awr, cyn wired â'm bod yn fyw a bod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r holl ddaear, ni fydd yr un o'r rhai a welodd fy ngogoniant a'r arwyddion a wneuthum yn yr Aifft ac yn yr anialwch, ond a wrthododd wrando arnaf a'm profi y dengwaith hyn, yn cael gweld y wlad y tyngais ei rhoi i'w hynafiaid; ac ni fydd neb o'r rhai a fu'n fy nilorni yn ei gweld ychwaith. Ond y mae ysbryd gwahanol yn fy ngwas Caleb, ac am iddo fy nilyn yn llwyr, arweiniaf ef i'r wlad y bu eisoes i mewn ynddi, a bydd ei ddisgynyddion yn ei meddiannu. Yn awr, am fod yr Amaleciaid a'r Canaaneaid yn byw yn y dyffryn, yr ydych i ddychwelyd yfory i'r anialwch a cherdded ar hyd ffordd y Môr Coch.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Am ba hyd y bydd y cynulliad drygionus hwn yn grwgnach yn f'erbyn? Yr wyf wedi clywed grwgnach pobl Israel yn f'erbyn; felly dywed wrthynt: ‘Cyn wired â'm bod yn fyw,’ medd yr ARGLWYDD, ‘fe wnaf i chwi yr hyn a ddywedasoch yn fy nghlyw: bydd pob un ugain oed a throsodd, a rifwyd yn y cyfrifiad ac sydd wedi grwgnach yn f'erbyn, yn syrthio'n farw yn yr anialwch hwn. Ni chaiff yr un ohonoch ddod i mewn i'r wlad y tyngais lw y byddech yn byw ynddi, heblaw Caleb fab Jeffunne a Josua fab Nun. Ond am eich plant, y dywedasoch chwi y byddent yn ysbail, dof â hwy i mewn i ddarostwng y wlad yr ydych chwi wedi ei dirmygu, tra byddwch chwi'n syrthio'n farw yn yr anialwch. Bydd eich plant yn crwydro'r anialwch am ddeugain mlynedd ac yn dioddef am eich anffyddlondeb chwi, nes i'r olaf ohonoch farw yn yr anialwch. Am ddeugain mlynedd, sef blwyddyn am bob un o'r deugain diwrnod y buoch yn ysbïo'r wlad, byddwch yn dioddef am eich drygioni ac yn gwybod am fy nigofaint.’ Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; byddaf yn sicr o wneud hyn i bob un o'r cynulliad drygionus hwn sydd wedi cynllwyn yn f'erbyn. Y mae'r diwedd ar eu gwarthaf, a byddant farw yn yr anialwch hwn.” Felly, am y dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad, sef y rhai a ddychwelodd â'r adroddiad gwael amdani, a pheri i'r holl gynulliad rwgnach yn ei erbyn, eu tynged oedd marw trwy bla gerbron yr ARGLWYDD. Ond o'r dynion hynny a aeth i ysbïo'r wlad, cafodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne fyw. Pan ddywedodd Moses hyn wrth yr holl Israeliaid, dechreuodd y bobl alaru'n ddirfawr. Codasant yn fore drannoeth a dringo i'r mynydd-dir, a dweud, “Edrychwch, awn i fyny i'r lle y dywedodd yr ARGLWYDD amdano; oherwydd yr ydym wedi pechu.” Ond dywedodd Moses, “Pam yr ydych yn troseddu yn erbyn gorchymyn yr ARGLWYDD? Ni fyddwch yn llwyddo. Peidiwch â mynd i fyny rhag i'ch gelynion eich difa, oherwydd nid yw'r ARGLWYDD gyda chwi. Y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid o'ch blaen, a byddwch yn syrthio trwy fin y cleddyf; ni fydd yr ARGLWYDD gyda chwi, am eich bod wedi cefnu arno.” Eto, yr oeddent yn benderfynol o ddringo i'r mynydd-dir, er nad aeth Moses nac arch cyfamod yr ARGLWYDD allan o'r gwersyll. Yna daeth yr Amaleciaid a'r Canaaneaid a oedd yn byw yn y mynydd-dir hwnnw i lawr yn eu herbyn, a'u herlid hyd Horma.
Numeri 14:11-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint mae’r bobl yma’n mynd i’m dirmygu i? Ydyn nhw byth yn mynd i gredu yno i, ar ôl yr holl arwyddion gwyrthiol maen nhw wedi’u gweld? Dw i wedi cael digon! Dw i’n mynd i anfon haint i’w dinistrio nhw! A bydda i’n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.” A dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ond wedyn bydd pobl yr Aifft yn clywed am y peth! Ti ddefnyddiodd dy nerth i ddod â’r bobl allan oddi wrthyn nhw. Byddan nhw’n dweud am y peth wrth bobl y wlad dŷn ni’n mynd iddi. ARGLWYDD, maen nhw wedi clywed dy fod ti gyda’r bobl yma. Maen nhw’n gwybod fod y bobl yma wedi dy weld di gyda’u llygaid eu hunain, bod dy gwmwl di yn hofran uwch eu pennau, a dy fod ti’n eu harwain nhw mewn colofn o niwl yn y dydd a cholofn o dân yn y nos. Os gwnei di ladd y bobl yma i gyd gyda’i gilydd, bydd y gwledydd sydd wedi clywed amdanat ti’n dweud, ‘Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu arwain y bobl i’r wlad roedd e wedi’i haddo iddyn nhw, felly dyma fe’n eu lladd nhw yn yr anialwch!’ Felly, fy Meistr, dangos mor gryf wyt ti. Rwyt ti wedi dweud, ‘Mae’r ARGLWYDD mor amyneddgar ac mae ei haelioni yn anhygoel. Mae’n maddau beiau a gwrthryfel. Ond dydy e ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi. Mae pechodau pobl yn gadael eu hôl ar y plant am dair neu bedair cenhedlaeth.’ Plîs wnei di faddau drygioni’r bobl yma? Mae dy gariad ffyddlon mor fawr, ac rwyt ti wedi bod yn maddau iddyn nhw ers iddyn nhw ddod o’r Aifft.” A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, dw i wedi maddau iddyn nhw fel rwyt ti eisiau. Ond mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw, a bod fy ysblander i’n llenwi’r byd i gyd: Mae’r bobl yma wedi gweld fy ysblander i, a’r holl arwyddion gwyrthiol wnes i yn yr Aifft, ac eto maen nhw wedi fy rhoi i ar brawf dro ar ôl tro, ac wedi gwrthod gwrando arna i. Felly gân nhw’n bendant ddim gweld y wlad wnes i addo ei rhoi i’w hynafiaid. Fydd neb o’r rhai sydd wedi bod mor ddirmygus ohono i yn mynd yno. Ond mae fy ngwas Caleb yn wahanol. Mae e wedi bod yn ffyddlon, a bydd e’n cael mynd yn ôl i’r wlad aeth e i’w gweld, a bydd ei blant yn ei hetifeddu. (Cofia fod yr Amaleciaid a’r Canaaneaid yn byw yn y dyffrynnoedd.) Felly, yfory, dw i am i ti droi yn ôl i gyfeiriad yr anialwch sydd ar y ffordd yn ôl i’r Môr Coch.” ARGLWYDD Dyma’r ARGLWYDD yn siarad gyda Moses ac Aaron: “Am faint mwy mae’n rhaid i mi ddiodde’r bobl yma sy’n cwyno ac yn ymosod arna i? Dw i wedi clywed popeth maen nhw’n ei ddweud. Dwed wrthyn nhw fy mod i, yr ARGLWYDD, yn dweud, ‘Mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw, bydda i’n gwneud i chi beth glywais i chi’n gofyn amdano! Byddwch chi’n syrthio’n farw yma yn yr anialwch. Am eich bod chi wedi troi yn fy erbyn i, fydd dim un ohonoch chi gafodd ei gyfrif (o ugain oed i fyny) yn cael mynd i’r wlad wnes i addo ei rhoi i chi setlo ynddi. Yr unig ddau eithriad fydd Caleb fab Jeffwnne a Josua fab Nwn. Ond bydd eich plant (y rhai roeddech chi’n dweud fyddai’n cael eu cymryd yn gaethion) yn cael mwynhau’r wlad roeddech chi mor ddibris ohoni. Byddwch chi’n syrthio’n farw yn yr anialwch yma. A bydd eich plant yn gorfod crwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd. Byddan nhw’n talu am eich bod chi wedi bod yn anffyddlon! Dyna fydd y sefyllfa nes bydd corff yr olaf o’ch cenhedlaeth chi yn gorwedd yn yr anialwch. Byddwch chi’n dioddef am y drwg am bedwar deg mlynedd, sef un flwyddyn am bob diwrnod buoch chi’n archwilio’r wlad. Byddwch chi’n deall beth mae’n ei olygu i’m cael i yn elyn i chi!’ Dw i, yr ARGLWYDD, wedi dweud. Dw i’n mynd i wneud hyn i bob un o’r criw sydd wedi dod at ei gilydd yn fy erbyn i. Yr anialwch yma fydd eu diwedd nhw! Dyma ble fyddan nhw’n marw!” Yna dyma’r dynion roddodd adroddiad gwael ar ôl bod yn archwilio’r wlad, a gwneud i’r bobl gwyno a throi yn erbyn Moses, yn cael eu taro gan bla ac yn marw o flaen yr ARGLWYDD. Ond cafodd Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne, oedd gyda nhw, fyw. Pan ddwedodd Moses wrth bobl Israel am hyn i gyd, buodd y bobl yn galaru am y peth. Yna’n gynnar iawn y bore wedyn, dyma nhw’n mynd i fyny i ben bryn. “Dyma ni,” medden nhw, “gadewch i ni fynd i’r lle ddwedodd yr ARGLWYDD. Dŷn ni’n gwybod ein bod ni wedi pechu.” Ond dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Pam dych chi’n tynnu’n groes eto i beth mae’r ARGLWYDD wedi’i ddweud? Wnewch chi ddim llwyddo! Peidiwch mynd yn eich blaenau. Dydy’r ARGLWYDD ddim gyda chi. Bydd eich gelynion yn eich curo chi. Byddwch chi’n dod wyneb yn wyneb â’r Amaleciaid a’r Canaaneaid, ac yn cael eich lladd. Dych chi wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, felly fydd yr ARGLWYDD ddim gyda chi.” Er hynny, dyma nhw’n mynnu mentro yn eu blaenau i fyny i’r bryniau. Ond wnaeth Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD na Moses ddim gadael y gwersyll. A dyma’r Amaleciaid a’r Canaaneaid oedd yn byw yno yn ymosod arnyn nhw, a mynd ar eu holau yr holl ffordd i Horma.
Numeri 14:11-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pa hyd y digia’r bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? Trawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt-hwy. A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, Felly yr Eifftiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth,) Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, ARGLWYDD, ymysg y bobl yma, a’th fod di, ARGLWYDD, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;) Os lleddi y bobl yma fel un gŵr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat, gan ddywedyd, O eisiau gallu o’r ARGLWYDD ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch. Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, atolwg, nerth yr ARGLWYDD, fel y lleferaist, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aifft hyd yma. A dywedodd yr ARGLWYDD, Maddeuais, yn ôl dy air: Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr ARGLWYDD. Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais, Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef: Ond fy ngwas Caleb, am fod ysbryd arall gydag ef, ac iddo fy nghyflawn ddilyn, dygaf ef i’r tir y daeth iddo: a’i had a’i hetifedda ef. (Ond y mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i’r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch. A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, Pa hyd y cyd-ddygaf â’r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn. Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi. Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn, Diau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun. Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, hwynt-hwy a ddygaf i’r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi. A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn. A’ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch. Yn ôl rhifedi’r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i. Myfi yr ARGLWYDD a leferais, diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw. A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio’r tir, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir; Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir, a fuant feirw o’r pla, gerbron yr ARGLWYDD. Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, a fuant fyw o’r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir. A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl a alarodd yn ddirfawr. A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele ni, a ni a awn i fyny i’r lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD: canys ni a bechasom. A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr ARGLWYDD? a hyn ni lwydda. Nac ewch i fyny; canys nid yw yr ARGLWYDD yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion. Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr ARGLWYDD, ni bydd yr ARGLWYDD gyda chwi. Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfamod yr ARGLWYDD, a Moses, ni symudasant o ganol y gwersyll. Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a’r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a’u trawsant, ac a’u difethasant hyd Horma.