Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 14:1-23

Numeri 14:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dechreuodd yr holl gynulliad weiddi'n uchel, a bu'r bobl yn wylo trwy'r noson honno. Yr oedd yr Israeliaid i gyd yn grwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dywedodd y cynulliad wrthynt, “O na buasem wedi marw yng ngwlad yr Aifft neu yn yr anialwch hwn! Pam y mae'r ARGLWYDD yn mynd â ni i'r wlad hon lle byddwn yn syrthio trwy fin y cleddyf, a lle bydd ein gwragedd a'n plant yn ysbail? Oni fyddai'n well inni ddychwelyd i'r Aifft?” Dywedasant wrth ei gilydd, “Dewiswn un yn ben arnom, a dychwelwn i'r Aifft.” Yna ymgrymodd Moses ac Aaron o flaen holl aelodau cynulliad pobl Israel. Dechreuodd Josua fab Nun a Caleb fab Jeffunne, a fu'n ysbïo'r wlad, rwygo'u dillad, a dweud wrth holl gynulliad pobl Israel, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn wlad dda iawn. Os bydd yr ARGLWYDD yn fodlon arnom, fe'n harwain i mewn i'r wlad hon sy'n llifeirio o laeth a mêl, a'i rhoi inni. Ond peidiwch â gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD, a pheidiwch ag ofni trigolion y wlad, oherwydd byddant yn ysglyfaeth i ni. Y mae'r ARGLWYDD gyda ni, ond y maent hwy yn ddiamddiffyn; felly peidiwch â'u hofni.” Tra oedd yr holl Israeliaid yn sôn am eu llabyddio, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD iddynt ym mhabell y cyfarfod. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Am ba hyd y bydd y bobl hyn yn fy nilorni? Ac am ba hyd y byddant yn gwrthod credu ynof, er yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? Trawaf hwy â haint a'u gwasgaru, ond fe'th wnaf di'n genedl fwy a chryfach na hwy.” Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Oni ddaw'r Eifftiaid i glywed am hyn, gan mai o'u plith hwy y daethost â'r bobl yma allan â'th nerth dy hun? Ac oni ddywedant hwy wrth drigolion y wlad hon? Y maent wedi clywed dy fod di, ARGLWYDD, gyda'r bobl hyn, ac yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl yn aros drostynt, a'th fod yn eu harwain mewn colofn o niwl yn y dydd a cholofn o dân yn y nos. Yn awr, os lleddi'r bobl hyn ag un ergyd, bydd y cenhedloedd sydd wedi clywed sôn amdanat yn dweud, ‘Lladdodd yr ARGLWYDD y bobl hyn yn yr anialwch am na fedrai ddod â hwy i'r wlad y tyngodd lw ei rhoi iddynt.’ Felly erfyniaf ar i nerth yr ARGLWYDD gynyddu, fel yr addewaist pan ddywedaist, ‘Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ac yn llawn o drugaredd, yn maddau drygioni a gwrthryfel; eto, heb adael yr euog yn ddi-gosb, y mae'n cosbi'r plant am droseddau'r tadau hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.’ Yn ôl dy drugaredd fawr, maddau ddrygioni'r bobl hyn, fel yr wyt wedi maddau iddynt o ddyddiau'r Aifft hyd yn awr.” Atebodd yr ARGLWYDD, “Yr wyf wedi maddau iddynt, yn ôl dy ddymuniad; ond yn awr, cyn wired â'm bod yn fyw a bod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r holl ddaear, ni fydd yr un o'r rhai a welodd fy ngogoniant a'r arwyddion a wneuthum yn yr Aifft ac yn yr anialwch, ond a wrthododd wrando arnaf a'm profi y dengwaith hyn, yn cael gweld y wlad y tyngais ei rhoi i'w hynafiaid; ac ni fydd neb o'r rhai a fu'n fy nilorni yn ei gweld ychwaith.

Numeri 14:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma bawb yn torri allan i grio’n uchel. Roedden nhw’n crio drwy’r nos. Dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a throi yn erbyn Moses ac Aaron. “Byddai’n well petaen ni wedi marw yn yr Aifft, neu hyd yn oed yn yr anialwch yma!” medden nhw. “Pam mae’r ARGLWYDD wedi dod â ni i’r wlad yma i gael ein lladd yn y frwydr? Bydd ein gwragedd a’n plant yn cael eu cymryd yn gaethion! Fyddai ddim yn well i ni fynd yn ôl i’r Aifft?” A dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Gadewch i ni ddewis rhywun i’n harwain ni, a mynd yn ôl i’r Aifft.” Dyma Moses ac Aaron yn plygu gyda’u hwynebau ar lawr. Gwnaethon nhw hyn o flaen pobl Israel i gyd, oedd wedi dod at ei gilydd. Yna dyma ddau o’r arweinwyr oedd wedi bod yn archwilio’r wlad – sef Josua fab Nwn a Caleb fab Jeffwnne – yn rhwygo’u dillad. A dyma nhw’n dweud wrth bobl Israel, “Mae’r wlad buon ni’n edrych arni yn wlad fendigedig! Os ydy’r ARGLWYDD yn hapus gyda ni, bydd yn mynd â ni yno ac yn rhoi’r wlad i ni. Mae’n dir ffrwythlon – tir lle mae llaeth a mêl yn llifo. Felly, peidiwch gwrthryfela yn erbyn yr ARGLWYDD! A pheidiwch bod ag ofn y bobl sy’n byw yn y wlad. Ni fydd yn eu bwyta nhw! Does ganddyn nhw ddim gobaith! Mae’r ARGLWYDD gyda ni! Felly peidiwch bod â’u hofn nhw.” Erbyn hyn, roedd y bobl yn bygwth lladd Josua a Caleb drwy daflu cerrig atyn nhw. Ond yna dyma ysblander yr ARGLWYDD yn dod i’r golwg uwchben pabell presenoldeb Duw. (Gwelodd pobl Israel i gyd hyn.) A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint mae’r bobl yma’n mynd i’m dirmygu i? Ydyn nhw byth yn mynd i gredu yno i, ar ôl yr holl arwyddion gwyrthiol maen nhw wedi’u gweld? Dw i wedi cael digon! Dw i’n mynd i anfon haint i’w dinistrio nhw! A bydda i’n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.” A dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Ond wedyn bydd pobl yr Aifft yn clywed am y peth! Ti ddefnyddiodd dy nerth i ddod â’r bobl allan oddi wrthyn nhw. Byddan nhw’n dweud am y peth wrth bobl y wlad dŷn ni’n mynd iddi. ARGLWYDD, maen nhw wedi clywed dy fod ti gyda’r bobl yma. Maen nhw’n gwybod fod y bobl yma wedi dy weld di gyda’u llygaid eu hunain, bod dy gwmwl di yn hofran uwch eu pennau, a dy fod ti’n eu harwain nhw mewn colofn o niwl yn y dydd a cholofn o dân yn y nos. Os gwnei di ladd y bobl yma i gyd gyda’i gilydd, bydd y gwledydd sydd wedi clywed amdanat ti’n dweud, ‘Doedd yr ARGLWYDD ddim yn gallu arwain y bobl i’r wlad roedd e wedi’i haddo iddyn nhw, felly dyma fe’n eu lladd nhw yn yr anialwch!’ Felly, fy Meistr, dangos mor gryf wyt ti. Rwyt ti wedi dweud, ‘Mae’r ARGLWYDD mor amyneddgar ac mae ei haelioni yn anhygoel. Mae’n maddau beiau a gwrthryfel. Ond dydy e ddim yn gadael i’r euog fynd heb ei gosbi. Mae pechodau pobl yn gadael eu hôl ar y plant am dair neu bedair cenhedlaeth.’ Plîs wnei di faddau drygioni’r bobl yma? Mae dy gariad ffyddlon mor fawr, ac rwyt ti wedi bod yn maddau iddyn nhw ers iddyn nhw ddod o’r Aifft.” A dyma’r ARGLWYDD yn ateb, “Iawn, dw i wedi maddau iddyn nhw fel rwyt ti eisiau. Ond mor sicr â’r ffaith fy mod i’n fyw, a bod fy ysblander i’n llenwi’r byd i gyd: Mae’r bobl yma wedi gweld fy ysblander i, a’r holl arwyddion gwyrthiol wnes i yn yr Aifft, ac eto maen nhw wedi fy rhoi i ar brawf dro ar ôl tro, ac wedi gwrthod gwrando arna i. Felly gân nhw’n bendant ddim gweld y wlad wnes i addo ei rhoi i’w hynafiaid. Fydd neb o’r rhai sydd wedi bod mor ddirmygus ohono i yn mynd yno.

Numeri 14:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r bobl a wylasant y nos honno. A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft! neu, O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn! A phaham y mae yr ARGLWYDD yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn ysbail. Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aifft? A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i’r Aifft. Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel. Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbiwyr y tir, a rwygasant eu dillad; Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth. Os yr ARGLWYDD sydd fodlon i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl. Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr ARGLWYDD, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r ARGLWYDD sydd gyda ni: nac ofnwch hwynt. A’r holl dorf a ddywedasant am eu llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Pa hyd y digia’r bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? Trawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt-hwy. A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, Felly yr Eifftiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth,) Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, ARGLWYDD, ymysg y bobl yma, a’th fod di, ARGLWYDD, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;) Os lleddi y bobl yma fel un gŵr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat, gan ddywedyd, O eisiau gallu o’r ARGLWYDD ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch. Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, atolwg, nerth yr ARGLWYDD, fel y lleferaist, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aifft hyd yma. A dywedodd yr ARGLWYDD, Maddeuais, yn ôl dy air: Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr ARGLWYDD. Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais, Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef