Numeri 13:31-33
Numeri 13:31-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma’r dynion eraill oedd wedi mynd i archwilio’r wlad yn dweud, “Na, allwn ni ddim ymosod ar y bobl yno. Maen nhw’n llawer rhy gryf i ni!” A dyma nhw’n rhoi adroddiad gwael i bobl Israel, “Byddwn ni’n cael ein llyncu gan bobl y wlad buon ni’n edrych arni. Mae’r bobl welon ni yno yn anferth! Roedd yno gewri, sef disgynyddion Anac. Roedden ni’n teimlo’n fach fel pryfed wrth eu hymyl nhw, a dyna sut roedden nhw’n ein gweld ni hefyd!”
Numeri 13:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond dywedodd y dynion oedd wedi mynd gydag ef, “Ni allwn fynd i fyny yn erbyn y bobl, oherwydd y maent yn gryfach na ni.” Felly rhoesant adroddiad gwael i'r Israeliaid am y wlad yr oeddent wedi ei hysbïo, a dweud, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn difa ei thrigolion, ac y mae'r holl bobl a welsom ynddi yn anferth. Gwelsom yno y Neffilim (y mae meibion Anac yn ddisgynyddion y Neffilim); nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau.”
Numeri 13:31-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond y gwŷr y rhai a aethant i fyny gydag ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fyny yn erbyn y bobl; canys cryfach ydynt na nyni. A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe; a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corffol: Ac yno y gwelsom y cewri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cewri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.