Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 12:1-16

Numeri 12:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd Miriam ac Aaron wedi dechrau beirniadu Moses, am ei fod wedi priodi dynes o ddwyrain Affrica (ie, dynes ddu o Affrica). “Ai dim ond drwy Moses mae’r ARGLWYDD yn siarad?” medden nhw. “Ydy e ddim wedi siarad trwon ni hefyd?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi’u clywed nhw. (Roedd Moses ei hun yn ddyn gostyngedig iawn. Doedd neb llai balch drwy’r byd i gyd.) Felly dyma’r ARGLWYDD yn galw ar Moses, Aaron a Miriam: “Dw i eisiau i’r tri ohonoch chi ddod at babell presenoldeb Duw.” Felly dyma’r tri ohonyn nhw’n mynd. A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr mewn colofn o niwl o flaen mynedfa’r Tabernacl. A dyma fe’n dweud wrth Aaron a Miriam i gamu ymlaen, a dyma nhw’n gwneud hynny. Yna dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Gwrandwch yn ofalus ar beth dw i’n ddweud: Os oes proffwyd gyda chi, dw i’r ARGLWYDD yn siarad â’r person hwnnw drwy weledigaeth a breuddwyd. Ond mae fy ngwas Moses yn wahanol. Dw i’n gallu ei drystio fe’n llwyr. Dw i’n siarad ag e wyneb yn wyneb – yn gwbl agored. Does dim ystyr cudd. Mae e’n gweld yr ARGLWYDD mewn ffordd unigryw. Felly pam roeddech chi mor barod i’w feirniadu?” Roedd yr ARGLWYDD wedi digio go iawn gyda nhw, a dyma fe’n mynd i ffwrdd. Ac wrth i’r cwmwl godi oddi ar y Tabernacl, roedd croen Miriam wedi troi’n wyn gan wahanglwyf. Pan welodd Aaron y gwahanglwyf arni, dyma fe’n galw ar Moses, “Meistr, plîs paid cymryd yn ein herbyn ni. Dŷn ni wedi bod yn ffyliaid, ac wedi pechu! Paid gadael iddi fod fel plentyn wedi’i eni’n farw, a hanner ei gnawd wedi diflannu cyn iddo ddod o’r groth!” A gweddïodd Moses ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, plîs wnei di ei hiacháu hi?” A dyma’r ARGLWYDD yn ei ateb, “Petai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, byddai’n cael ei diystyru am saith diwrnod. Cau hi allan o’r gwersyll am saith diwrnod, a bydd hi’n cael dod yn ôl wedyn.” Felly dyma Miriam yn cael ei chau allan o’r gwersyll am saith diwrnod. A wnaeth y bobl ddim teithio yn eu blaenau nes roedd Miriam yn ôl gyda nhw. Ar ôl hynny, dyma’r bobl yn gadael Chatseroth, ac yn gwersylla yn anialwch Paran.

Numeri 12:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd gan Miriam ac Aaron gŵyn yn erbyn Moses oherwydd y wraig o Ethiopia yr oedd wedi ei phriodi, a gofynasant, “Ai trwy Moses yn unig y llefarodd yr ARGLWYDD? Oni lefarodd hefyd trwom ni?” A chlywodd yr ARGLWYDD hwy. Yr oedd Moses yn ddyn gostyngedig iawn, yn fwy felly na neb ar wyneb y ddaear. Yn sydyn, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Aaron a Miriam, “Dewch allan eich tri at babell y cyfarfod,” a daeth y tri ohonynt allan. Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn colofn o gwmwl, a sefyll wrth ddrws y babell, a phan alwodd ar Aaron a Miriam, daeth y ddau ohonynt ymlaen. Yna dywedodd, “Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau: Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith, datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth, a llefaraf wrtho mewn breuddwyd. Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses; ef yn unig o'm holl dŷ sy'n ffyddlon. Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb, yn eglur, ac nid mewn posau; caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD. Pam, felly, nad oedd arnoch ofn cwyno yn erbyn fy ngwas Moses?” Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith. Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira. Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, “O f'arglwydd, paid â chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ffôl â'i wneud. Paid â gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa.” Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD, “O Dduw, yr wyf yn erfyn arnat ei hiacháu.” Atebodd yr ARGLWYDD ef, “Pe bai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, oni fyddai hi wedi cywilyddio am saith diwrnod? Caeer hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac yna caiff ddod i mewn eto.” Felly caewyd Miriam allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac ni chychwynnodd y bobl ar eu taith nes iddi ddychwelyd. Yna aethant ymaith o Haseroth, a gwersyllu yn anialwch Paran.

Numeri 12:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig. A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr ARGLWYDD? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r ARGLWYDD a glybu hynny. A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear. A dywedodd yr ARGLWYDD yn ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd. Yna y disgynnodd yr ARGLWYDD yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau. Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr ARGLWYDD yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho. Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ. Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr ARGLWYDD: paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses? A digofaint yr ARGLWYDD a enynnodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith. A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahanglwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahanglwyfus. Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, atolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom. Na fydded hi, atolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam. A Moses a waeddodd ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, O DDUW, atolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll, ac wedi hynny derbynier hi. A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni chychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn. Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth, ac a wersyllasant yn anialwch Paran.