Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nehemeia 8:1-18

Nehemeia 8:1-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

a dod at ei gilydd yn Jerwsalem yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr. Dyma nhw’n gofyn i Esra’r ysgrifennydd ddod yno gyda Llyfr Cyfraith Moses oedd yr ARGLWYDD wedi’i roi i bobl Israel. Felly ar ddiwrnod cynta’r seithfed mis dyma Esra’r offeiriad yn dod a darllen y cyfarwyddiadau i’r gynulleidfa oedd yno – yn ddynion a merched, a phawb oedd yn ddigon hen i ddeall. Bu’n darllen iddyn nhw yn y sgwâr o flaen Giât y Dŵr o’r bore bach hyd ganol dydd. Roedd pawb yn gwrando’n astud ar beth roedd sgrôl y Gyfraith yn ei ddweud. Roedd Esra’n sefyll ar lwyfan uchel o goed oedd wedi’i godi’n unswydd. Roedd Matitheia, Shema, Anaia, Wreia, Chilcïa, a Maaseia yn sefyll ar ei ochr dde iddo, a Pedaia, Mishael, Malcîa, Chashŵm, Chashbadana, Sechareia a Meshwlam ar y chwith. Dyma Esra yn agor y sgrôl. (Roedd pawb yn ei weld yn gwneud hyn, gan ei fod i fyny ar y llwyfan.) Pan agorodd y sgrôl, dyma’r bobl i gyd yn sefyll ar eu traed. Yna dyma Esra yn bendithio yr ARGLWYDD, y Duw mawr. A dyma’r bobl yn ateb, “Amen! Amen!” a chodi eu dwylo. Yna dyma nhw’n plygu’n isel i addoli’r ARGLWYDD, a’i hwynebau ar lawr. Tra oedd y bobl yn sefyll yno, roedd nifer o Lefiaid yn dysgu’r Gyfraith iddyn nhw – Ieshŵa, Bani, Sherefeia, Iamîn, Accwf, Shabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Iosafad, Chanan, a Pelaia. Roedden nhw’n darllen o sgrôl y Gyfraith bob yn adran, ac yna yn ei esbonio, fel bod y bobl yn deall beth oedd yn cael ei ddarllen. Roedd y bobl wedi dechrau crio wrth wrando ar y Gyfraith yn cael ei darllen iddyn nhw. A dyma Nehemeia y llywodraethwr, Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r Lefiaid oedd yn rhoi’r esboniad, yn dweud, “Mae heddiw’n ddiwrnod wedi’i gysegru i’r ARGLWYDD eich Duw. Peidiwch galaru a chrio. Ewch i ddathlu a mwynhau pryd o fwyd a diod felys, a chofiwch rannu gyda’r rhai sydd heb ddim. Mae heddiw’n ddiwrnod wedi’i gysegru i’r Meistr. Peidiwch bod yn drist – bod yn llawen yn yr ARGLWYDD sy’n rhoi nerth i chi!” Yna dyma’r Lefiaid yn tawelu’r bobl, a dweud, “Ust! Stopiwch grio. Mae heddiw’n ddiwrnod cysegredig.” Felly dyma’r bobl i gyd yn mynd i ffwrdd i fwyta ac yfed a rhannu beth oedd ganddyn nhw’n llawen – achos roedden nhw wedi deall beth oedd wedi cael ei ddysgu iddyn nhw. Yna’r diwrnod wedyn dyma benaethiaid y claniau, yr offeiriaid a’r Lefiaid yn cyfarfod gydag Esra yr ysgrifennydd i astudio eto beth roedd y Gyfraith yn ei ddweud. A dyma nhw’n darganfod fod yr ARGLWYDD wedi rhoi gorchymyn drwy Moses fod pobl Israel i fyw mewn llochesau dros dro yn ystod yr Ŵyl yn y seithfed mis. Roedden nhw i fod i gyhoeddi’r neges yma drwy’r trefi i gyd, ac yn Jerwsalem: “Ewch i’r bryniau i gasglu canghennau deiliog pob math o goed – olewydd, myrtwydd, palmwydd ac yn y blaen – i godi’r llochesau gyda nhw. Dyna sydd wedi’i ysgrifennu yn y Gyfraith.” Felly dyma’r bobl yn mynd allan a dod â’r canghennau yn ôl gyda nhw i godi llochesau iddyn nhw’u hunain – ar ben to eu tai, neu yn yr iard, yn iard y deml ac yn sgwâr Giât y Dŵr a Giât Effraim. Aeth pawb oedd wedi dod yn ôl o’r gaethglud ati i godi llochesau dros dro i fyw ynddyn nhw dros yr Ŵyl. Doedd pobl Israel ddim wedi gwneud fel yma ers dyddiau Josua fab Nwn. Roedd pawb yn dathlu’n llawen. Dyma Esra yn darllen o Lyfr Cyfraith Duw bob dydd, o ddechrau’r Ŵyl i’w diwedd. Dyma nhw’n cadw’r Ŵyl am saith diwrnod, ac yna yn ôl y drefn dod at ei gilydd i addoli eto.

Nehemeia 8:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu trefi, ymgasglodd yr holl bobl fel un yn y sgwâr sydd o flaen Porth y Dŵr. Yna dywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd am ddod â llyfr cyfraith Moses, sef yr un a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Israel. Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis daeth Esra yr offeiriad â'r gyfraith o flaen y gynulleidfa, yn wŷr a gwragedd, pawb a fedrai ddeall yr hyn a glywai. Darllenodd rannau ohoni, o doriad gwawr hyd hanner dydd, yng ngŵydd y gwŷr a'r gwragedd oedd yn medru deall, gan wynebu'r sgwâr o flaen Porth y Dŵr; a gwrandawodd pawb yn astud ar lyfr y gyfraith. Safodd Esra yr ysgrifennydd ar bulpud pren oedd wedi ei wneud i'r diben. Ar yr ochr dde iddo safodd Matitheia, Sema, Anaia, Ureia, Hilceia a Maaseia, ac ar y chwith Pedaia, Misael, Malcheia, Hasum, Hasbadana, Sechareia a Mesulam. Agorodd Esra y llyfr yng ngolwg yr holl bobl, oherwydd yr oedd ef yn uwch na hwy, a phan agorodd y llyfr, safodd pawb ar eu traed. Bendithiodd Esra yr ARGLWYDD, y Duw mawr, ac atebodd yr holl bobl, “Amen, Amen”, gan godi eu dwylo ac ymgrymu ac addoli'r ARGLWYDD â'u hwynebau tua'r ddaear. Yr oedd y Lefiaid, Jesua, Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, yn egluro'r gyfraith i'r bobl, a hwythau'n aros yn eu lle. Yr oeddent yn darllen o lyfr cyfraith Dduw, ac yn ei gyfieithu a'i esbonio fel bod pawb yn deall y darlleniad. Yna dywedodd Nehemeia y llywodraethwr ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid oedd yn hyfforddi'r bobl, wrth yr holl bobl, “Y mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'r ARGLWYDD eich Duw; peidiwch â galaru nac wylo.” Oherwydd yr oedd pawb yn wylo wrth wrando ar eiriau'r gyfraith. Yna fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, bwytewch ddanteithion ac yfwch win melys a rhannwch â'r sawl sydd heb ddim, oherwydd mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'n Harglwydd; felly, peidiwch â galaru, oherwydd llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth.” A thawelodd y Lefiaid yr holl bobl a dweud, “Byddwch ddistaw; peidiwch â galaru, oherwydd y mae heddiw yn ddydd sanctaidd.” Yna aeth pawb i ffwrdd i fwyta ac yfed ac i rannu ag eraill ac i orfoleddu, oherwydd yr oeddent wedi deall yr hyn a ddywedwyd wrthynt. Ar yr ail ddiwrnod daeth pennau-teuluoedd yr holl bobl, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, at Esra yr ysgrifennydd er mwyn astudio geiriau'r gyfraith. Yn y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD trwy Moses, fe gawsant yn ysgrifenedig y dylai'r Israeliaid fyw mewn pebyll yn ystod yr ŵyl yn y seithfed mis, a'u bod i anfon gair a chyhoeddi ym mhob un o'u dinasoedd yn ogystal ag yn Jerwsalem, “Ewch allan i'r mynydd, a dygwch gangau olewydd ac olewydd gwyllt a myrtwydd a phalmwydd a choed deiliog i wneud pebyll, fel yr ysgrifennwyd.” Aeth y bobl allan i'w cyrchu, a gwnaethant bebyll iddynt eu hunain, pob un ar do ei dŷ ac yn eu cynteddoedd ac yng nghynteddoedd tŷ Dduw ac yn y sgwâr o flaen Porth y Dŵr ac yn y sgwâr o flaen Porth Effraim. Gwnaeth yr holl gynulleidfa a ddychwelodd o'r gaethglud bebyll, a byw ynddynt. Nid oedd yr Israeliaid wedi gwneud hyn o amser Josua fab Nun hyd y dydd hwnnw; a bu gorfoledd mawr iawn. Darllenwyd o lyfr cyfraith Dduw yn feunyddiol o'r dydd cyntaf hyd yr olaf. Cadwasant yr ŵyl am saith diwrnod, ac ar yr wythfed dydd bu cynulliad yn ôl y ddefod.

Nehemeia 8:1-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i’r heol oedd o flaen porth y dwfr, ac a ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd, am ddwyn llyfr cyfraith Moses, yr hon a orchmynasai yr ARGLWYDD i Israel. Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr, a gwragedd, a phawb a’r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o’r seithfed mis. Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr, o’r bore hyd hanner dydd, gerbron y gwŷr, a’r gwragedd, a’r rhai oedd yn medru deall: a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith. Ac Esra yr ysgrifennydd a safodd ar bulpud o goed, yr hwn a wnaethid i’r peth hyn; a chydag ef y safodd Matitheia, a Sema, ac Anaia, ac Ureia, a Hilceia, a Maaseia, ar ei law ddeau ef; a Phedaia, a Misael, a Malcheia, a Hasum, a Hasbadana, Sechareia, a Mesulam, ar ei law aswy ef. Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl; (canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl;) a phan agorodd, yr holl bobl a safasant. Ac Esra a fendithiodd yr ARGLWYDD, y DUW mawr. A’r holl bobl a atebasant, Amen, Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr ARGLWYDD â’u hwynebau tua’r ddaear. Jesua hefyd, a Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, a’r Lefiaid, oedd yn dysgu y gyfraith i’r bobl, a’r bobl yn sefyll yn eu lle. A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yng nghyfraith DDUW: gan osod allan y synnwyr, fel y deallent wrth ddarllen. A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a’r ysgrifennydd, a’r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae heddiw yn sanctaidd i’r ARGLWYDD eich DUW; na alerwch, ac nac wylwch: canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i’r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i’n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr ARGLWYDD yw eich nerth chwi. A’r Lefiaid a ostegasant yr holl bobl, gan ddywedyd, Tewch: canys y dydd heddiw sydd sanctaidd, ac na thristewch. A’r holl bobl a aethant i fwyta ac i yfed, ac i anfon ymaith rannau, ac i wneuthur llawenydd mawr; oherwydd iddynt ddeall y geiriau a ddysgasent hwy iddynt. A’r ail ddydd, tadau pennaf yr holl bobl, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a ymgynullasant at Esra yr ysgrifennydd, i’w dysgu yng ngeiriau y gyfraith. A hwy a gawsant yn ysgrifenedig yn y gyfraith, yr hyn a orchmynasai yr ARGLWYDD trwy law Moses, y dylai meibion Israel drigo mewn bythod ar ŵyl y seithfed mis; Ac y dylent gyhoeddi, a gyrru gair trwy eu holl ddinasoedd, a thrwy Jerwsalem, gan ddywedyd, Ewch i’r mynydd, a dygwch ganghennau olewydd, a changau pinwydd, a changau y myrtwydd, a changau y palmwydd, a changhennau o’r prennau caeadfrig, i wneuthur bythod, fel y mae yn ysgrifenedig. Felly y bobl a aethant allan, ac a’u dygasant, ac a wnaethant iddynt fythod, bob un ar ei nen, ac yn eu cynteddoedd, ac yng nghynteddoedd tŷ DDUW, ac yn heol porth y dwfr, ac yn heol porth Effraim. A holl gynulleidfa y rhai a ddychwelasent o’r caethiwed, a wnaethant fythod, ac a eisteddasant yn y bythod: canys er dyddiau Josua mab Nun hyd y dydd hwnnw ni wnaethai meibion Israel felly. Ac yr oedd llawenydd mawr iawn. Ac Esra a ddarllenodd yn llyfr cyfraith DDUW beunydd, o’r dydd cyntaf hyd y dydd diwethaf. A hwy a gynaliasant yr ŵyl saith niwrnod; ac ar yr wythfed dydd y bu cymanfa, yn ôl y ddefod.