Nehemeia 1:2-4
Nehemeia 1:2-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
cyrhaeddodd Hanani, un o'm brodyr, a gwŷr o Jwda gydag ef. Holais hwy am Jerwsalem ac am yr Iddewon, y rhai dihangol a adawyd ar ôl heb fynd i'r gaethglud. Dywedasant hwythau wrthyf, “Y mae'r gweddill a adawyd ar ôl yn y dalaith, heb eu caethgludo, mewn trybini mawr a gofid; drylliwyd mur Jerwsalem a llosgwyd ei phyrth â thân.” Pan glywais hyn eisteddais i lawr ac wylo, a bûm yn galaru ac yn ymprydio am ddyddiau, ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd.
Nehemeia 1:2-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Chanani (oedd yn perthyn i mi) a dynion eraill o Jwda, yn dod i’m gweld i. A dyma fi’n eu holi nhw am yr Iddewon oedd wedi gadael y gaethglud, a sut oedd pethau yn Jerwsalem. A dyma nhw’n ateb, “Mae hi’n galed ar y bobl sydd wedi mynd yn ôl i’r dalaith o’r gaethglud. Maen nhw’n cael amser anodd. Mae wal Jerwsalem wedi’i chwalu, a’r giatiau wedi’u llosgi.” Pan glywais hyn i gyd, dyma fi’n eistedd i lawr. Rôn i’n crio ac yn galaru am ddyddiau, a bues i’n ymprydio ac yn gweddïo ar Dduw y nefoedd.
Nehemeia 1:2-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ddyfod o Hanani, un o’m brodyr, efe a gwŷr o Jwda; a gofynnais iddynt am yr Iddewon a ddianghasai, y rhai a adawsid o’r caethiwed, ac am Jerwsalem. A hwy a ddywedasant wrthyf, Y gweddillion, y rhai a adawyd o’r gaethglud yno yn y dalaith ydynt mewn blinder mawr a gwaradwydd: mur Jerwsalem hefyd a ddrylliwyd, a’i phyrth a losgwyd â thân. A phan glywais y geiriau hyn, myfi a eisteddais ac a wylais, ac a alerais dalm o ddyddiau; a bûm yn ymprydio, ac yn gweddïo gerbron DUW y nefoedd