Nahum 1:12-15
Nahum 1:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Er eu bod yn gyflawn a niferus, eto fe'u torrir i lawr, a darfyddant. Er imi dy flino, ni flinaf di mwyach. Yn awr, fe ddrylliaf ei iau oddi arnat, a thorraf dy rwymau.” Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat: “Ni fydd had o'th hil mwyach; torraf ymaith ddelw ac eilun o dŷ dy dduwiau; a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig.” Wele ar y mynyddoedd draed y negesydd yn cyhoeddi heddwch. Dathla dy wyliau, O Jwda, tâl dy addunedau, oherwydd ni ddaw'r dieflig i'th oresgyn byth eto; fe'i torrwyd ymaith yn llwyr.
Nahum 1:12-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Er eu bod nhw’n gryf ac yn niferus, byddan nhw’n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu. Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda, fydda i ddim yn dy gosbi di eto; dw i’n mynd i dorri’r iau roddodd e ar dy war a dryllio’r rhaffau sy’n dy rwymo.” Mae’r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe, “Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach. Dw i’n mynd i gael gwared â’r eilunod a’r delwau metel o demlau dy dduwiau. Bydda i’n paratoi bedd i ti fydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.” Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoedd yn cyhoeddi heddwch! “Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda, a chadw dy addewidion! Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto; byddan nhw’n cael eu dinistrio’n llwyr.”
Nahum 1:12-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni’th flinaf mwyach. Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau. Yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd o’th blegid, na heuer o’th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a’r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt. Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di, O Jwda, dy wyliau, tâl dy addunedau: canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef ymaith.