Marc 9:30-31
Marc 9:30-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma nhw’n gadael yr ardal honno ac yn teithio drwy Galilea. Doedd gan Iesu ddim eisiau i unrhyw un wybod ble roedden nhw, am ei fod wrthi’n dysgu ei ddisgyblion. “Dw i, Mab y Dyn,” meddai wrthyn nhw, “yn mynd i gael fy mradychu i afael pobl fydd yn fy lladd, ond ddeuddydd ar ôl cael fy lladd bydda i’n dod yn ôl yn fyw.”
Marc 9:30-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi iddynt adael y lle hwnnw, yr oeddent yn teithio trwy Galilea. Ni fynnai Iesu i neb wybod hynny, oherwydd yr oedd yn dysgu ei ddisgyblion ac yn dweud wrthynt, “Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pobl, ac fe'i lladdant ef, ac wedi cael ei ladd, ymhen tri diwrnod fe atgyfoda.”
Marc 9:30-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi ymadael oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilea: ac ni fynnai efe wybod o neb. Canys yr oedd efe yn dysgu ei ddisgyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodid Mab y dyn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef; ac wedi ei ladd, yr atgyfodai y trydydd dydd.