Marc 9:20-24
Marc 9:20-24 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Wrth iddyn nhw ddod â’r bachgen at Iesu dyma’r ysbryd drwg yn ei weld ac yn gwneud i’r bachgen gael ffit epileptig. Syrthiodd ar lawr a rholio o gwmpas yn glafoerio o’i geg. Dyma Iesu’n gofyn i’r tad, “Ers faint mae e fel hyn?” “Ers pan yn blentyn bach,” atebodd y dyn. “Mae’r ysbryd drwg wedi’i daflu i ganol tân neu geisio’i foddi mewn dŵr lawer gwaith. Os wyt ti’n gallu gwneud unrhyw beth i’n helpu ni, plîs gwna.” “Beth wyt ti’n feddwl ‘Os wyt ti’n gallu’?” meddai Iesu. “Mae popeth yn bosib i’r sawl sy’n credu!” Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!”
Marc 9:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A daethant â'r bachgen ato. Cyn gynted ag y gwelodd yr ysbryd ef, ysgytiodd y bachgen yn ffyrnig. Syrthiodd ar y llawr a rholio o gwmpas dan falu ewyn. Gofynnodd Iesu i'w dad, “Faint sydd er pan ddaeth hyn arno?” Dywedodd yntau, “O'i blentyndod; llawer gwaith fe'i taflodd i'r tân neu i'r dŵr, i geisio'i ladd. Os yw'n bosibl iti wneud rhywbeth, tosturia wrthym a helpa ni.” Dywedodd Iesu wrtho, “Os yw'n bosibl! Y mae popeth yn bosibl i'r sawl sydd â ffydd ganddo.” Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, “Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd.”
Marc 9:20-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a’i dygasant ef ato. A phan welodd ef, yn y man yr ysbryd a’i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn. A gofynnodd yr Iesu i’w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen. A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i’r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymorth ni, gan dosturio wrthym. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i’r neb a gredo. Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i.