Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 9:17-27

Marc 9:17-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma rhyw ddyn yn ei ateb, “Athro, des i â’m mab atat ti; mae’n methu siarad am ei fod wedi’i feddiannu gan ysbryd drwg sy’n ei wneud yn fud. Pan mae’r ysbryd drwg yn gafael ynddo mae’n ei daflu ar lawr, ac yna mae’n glafoerio a rhincian ei ddannedd ac yn mynd yn stiff i gyd. Gofynnais i dy ddisgyblion di fwrw’r ysbryd allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.” “Pam dych chi mor amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i’n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i’ch dioddef chi? Dewch â’r bachgen yma.” Wrth iddyn nhw ddod â’r bachgen at Iesu dyma’r ysbryd drwg yn ei weld ac yn gwneud i’r bachgen gael ffit epileptig. Syrthiodd ar lawr a rholio o gwmpas yn glafoerio o’i geg. Dyma Iesu’n gofyn i’r tad, “Ers faint mae e fel hyn?” “Ers pan yn blentyn bach,” atebodd y dyn. “Mae’r ysbryd drwg wedi’i daflu i ganol tân neu geisio’i foddi mewn dŵr lawer gwaith. Os wyt ti’n gallu gwneud unrhyw beth i’n helpu ni, plîs gwna.” “Beth wyt ti’n feddwl ‘Os wyt ti’n gallu’?” meddai Iesu. “Mae popeth yn bosib i’r sawl sy’n credu!” Gwaeddodd tad y bachgen ar unwaith, “Dw i yn credu! Helpa di fi i beidio amau!” Pan welodd Iesu fod tyrfa o bobl yn rhedeg i weld beth oedd yn digwydd, dyma fe’n ceryddu’r ysbryd drwg a dweud wrtho, “Ysbryd mud a byddar, tyrd allan o’r plentyn yma, a phaid byth mynd yn ôl eto.” Dyma’r ysbryd yn rhoi sgrech ac yn gwneud i’r bachgen ysgwyd yn ffyrnig, ond yna daeth allan. Roedd y bachgen yn gorwedd mor llonydd nes bod llawer yn meddwl ei fod wedi marw. Ond gafaelodd Iesu yn ei law a’i godi, a safodd ar ei draed.

Marc 9:17-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac un o’r dyrfa a atebodd ac a ddywedodd, Athro, mi a ddygais fy mab atat, ag ysbryd mud ynddo: A pha le bynnag y cymero ef, efe a’i rhwyga; ac yntau a fwrw ewyn, ac a ysgyrnyga ddannedd, ac y mae’n dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddisgyblion ar iddynt ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. Ac efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon, pa hyd y byddaf gyda chwi? pa hyd y goddefaf chwi? dygwch ef ataf fi. A hwy a’i dygasant ef ato. A phan welodd ef, yn y man yr ysbryd a’i drylliodd ef; a chan syrthio ar y ddaear, efe a ymdreiglodd, dan falu ewyn. A gofynnodd yr Iesu i’w dad ef, Beth sydd o amser er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntau a ddywedodd, Er yn fachgen. A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i’r dyfroedd, fel y difethai efe ef: ond os gelli di ddim, cymorth ni, gan dosturio wrthym. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i’r neb a gredo. Ac yn y fan tad y bachgen, dan lefain ac wylofain, a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd; cymorth fy anghrediniaeth i. A phan welodd yr Iesu fod y dyrfa yn cydredeg ato, efe a geryddodd yr ysbryd aflan, gan ddywedyd wrtho, Tydi ysbryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymyn i ti, Tyred allan ohono, ac na ddos mwy iddo ef. Ac wedi i’r ysbryd lefain, a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel un marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef. A’r Iesu a’i cymerodd ef erbyn ei law, ac a’i cyfododd; ac efe a safodd i fyny.