Marc 8:34-35
Marc 8:34-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn galwodd y dyrfa ato gyda’i ddisgyblion, a dwedodd wrthyn nhw: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi. Bydd y rhai sy’n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli’r bywyd go iawn, ond y rhai sy’n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i a’r newyddion da, yn diogelu bywyd go iawn.
Marc 8:34-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Galwodd ato'r dyrfa ynghyd â'i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a'r Efengyl, fe'i ceidw.
Marc 8:34-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddo alw ato y dyrfa, gyda’i ddisgyblion, efe a ddywedodd wrthynt, Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi. Canys pwy bynnag a fynno gadw ei einioes, a’i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei einioes er fy mwyn i a’r efengyl, hwnnw a’i ceidw hi.