Marc 8:27-31
Marc 8:27-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth Iesu a’i ddisgyblion yn eu blaenau i’r pentrefi o gwmpas Cesarea Philipi. Ar y ffordd yno gofynnodd iddyn nhw, “Pwy mae pobl yn ddweud ydw i?” Dyma nhw’n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto’n dweud mai un o’r proffwydi wyt ti.” “Ond beth amdanoch chi?” gofynnodd, “Pwy dych chi’n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Ti ydy’r Meseia.” Yna dyma Iesu’n eu rhybuddio nhw i beidio dweud hynny wrth neb. Dechreuodd esbonio iddyn nhw fod rhaid iddo fe, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Byddai’r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wrthod. Byddai’n cael ei ladd, ond yna’n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
Marc 8:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: “Pwy,” meddai wrthynt, “y mae pobl yn dweud ydwyf fi?” Dywedasant hwythau wrtho, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi.” Gofynnodd ef iddynt, “A chwithau, pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr ef, “Ti yw'r Meseia.” Rhybuddiodd hwy i beidio â dweud wrth neb amdano. Yna dechreuodd eu dysgu bod yn rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan yr henuriaid a'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, ac ymhen tridiau atgyfodi.
Marc 8:27-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu a aeth allan, efe a’i ddisgyblion, i drefi Cesarea Philipi: ac ar y ffordd efe a ofynnodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i? A hwy a atebasant, Ioan Fedyddiwr; a rhai, Eleias; ac eraill, Un o’r proffwydi. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Ti yw’r Crist. Ac efe a orchmynnodd iddynt na ddywedent i neb amdano. Ac efe a ddechreuodd eu dysgu hwynt, fod yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac wedi tridiau atgyfodi.