Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 8:1-21

Marc 8:1-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn y dyddiau hynny, a'r dyrfa unwaith eto'n fawr a heb ddim i'w fwyta, galwodd ei ddisgyblion ato, ac meddai wrthynt, “Yr wyf yn tosturio wrth y dyrfa, oherwydd y maent wedi bod gyda mi dridiau erbyn hyn, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwyta. Ac os anfonaf hwy adref ar eu cythlwng, llewygant ar y ffordd; y mae rhai ohonynt wedi dod o bell.” Atebodd ei ddisgyblion ef, “Sut y gall neb gael digon o fara i fwydo'r rhain mewn lle anial fel hyn?” Gofynnodd iddynt, “Pa sawl torth sydd gennych?” “Saith,” meddent hwythau. Gorchmynnodd i'r dyrfa eistedd ar y ddaear. Yna cymerodd y saith torth, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron; ac fe'u gosodasant gerbron y dyrfa. Ac yr oedd ganddynt ychydig o bysgod bychain; ac wedi eu bendithio, dywedodd am osod y rhain hefyd ger eu bron. Bwytasant a chael digon, a chodasant y tameidiau oedd yn weddill, lond saith cawell. Yr oedd tua phedair mil ohonynt. Gollyngodd hwy ymaith. Ac yna aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion, a daeth i ardal Dalmanwtha. Daeth y Phariseaid allan a dechrau dadlau ag ef. Yr oeddent yn ceisio ganddo arwydd o'r nef, i roi prawf arno. Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. “Pam,” meddai, “y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon.” A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw. Yr oeddent wedi anghofio dod â bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch. A dechreuodd eu siarsio, gan ddweud, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.” Ac yr oeddent yn trafod ymhlith ei gilydd y ffaith nad oedd ganddynt fara. Deallodd yntau hyn, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn trafod nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld na deall? A yw eich meddwl wedi troi'n ystyfnig? A llygaid gennych, onid ydych yn gweld, ac a chlustiau gennych, onid ydych yn clywed? Onid ydych yn cofio? Pan dorrais y pum torth i'r pum mil, pa sawl basgedaid lawn o dameidiau a godasoch?” Meddent wrtho, “Deuddeg.” “Pan dorrais y saith i'r pedair mil, llond pa sawl cawell o dameidiau a godasoch?” “Saith,” meddent. Ac meddai ef wrthynt, “Onid ydych eto'n deall?”

Marc 8:1-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd tyrfa fawr arall wedi casglu o’i gwmpas tua’r un adeg. Am bod dim bwyd gan y bobl, dyma Iesu’n galw’i ddisgyblion ato a dweud, “Dw i’n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i’w fwyta. Os anfona i nhw adre’n llwgu byddan nhw’n llewygu ar y ffordd. Mae rhai ohonyn nhw wedi dod o bell.” Atebodd y disgyblion, “Pa obaith sydd i unrhyw un ddod o hyd i ddigon o fwyd iddyn nhw yn y lle anial yma?!” Gofynnodd Iesu, “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” “Saith,” medden nhw. Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a’u rhoi i’w ddisgyblion i’w rhannu i’r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion. Roedd ychydig o bysgod bach ganddyn nhw hefyd; a gwnaeth Iesu yr un peth gyda’r rheiny. Cafodd pawb ddigon i’w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben. Roedd tua pedair mil o bobl yno! Ar ôl eu hanfon i ffwrdd, aeth i mewn i’r cwch gyda’i ddisgyblion a chroesi i ardal Dalmanwtha. Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw. Ochneidiodd Iesu’n ddwfn, a dweud: “Pam mae’r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai’n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!” Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i’r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea. Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch. Dyma Iesu’n eu rhybuddio nhw: “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, a burum Herod hefyd.” Wrth drafod y peth dyma’r disgyblion yn dod i’r casgliad mai tynnu sylw at y ffaith fod ganddyn nhw ddim bara oedd e. Roedd Iesu’n gwybod beth roedden nhw’n ddweud, a gofynnodd iddyn nhw: “Pam dych chi’n poeni eich bod heb fara? Ydych chi’n dal ddim yn deall? Pryd dych chi’n mynd i ddysgu? Ydych chi wedi troi’n ystyfnig? Ydych chithau hefyd yn ddall er bod llygaid gynnoch chi, ac yn fyddar er bod clustiau gynnoch chi? Ydych chi’n cofio dim byd? Pan o’n i’n rhannu’r pum torth rhwng y pum mil, sawl basgedaid o dameidiau oedd dros ben wnaethoch chi eu casglu?” “Deuddeg,” medden nhw. “A phan o’n i’n rhannu’r saith torth i’r pedair mil, sawl llond cawell o dameidiau wnaethoch chi eu casglu?” “Saith,” medden nhw. “Ydych chi’n dal ddim yn deall?” meddai Iesu wrthyn nhw.

Marc 8:1-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i’w fwyta, y galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yr wyf fi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyda mi, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: Ac os gollyngaf hwynt ymaith ar eu cythlwng i’w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai ohonynt a ddaeth o bell. A’i ddisgyblion ef a’i hatebasant, O ba le y gall neb ddigoni’r rhai hyn â bara yma yn yr anialwch? Ac efe a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith. Ac efe a orchmynnodd i’r dyrfa eistedd ar y llawr: ac a gymerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a’u torrodd hwynt, ac a’u rhoddes i’w ddisgyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau; a gosodasant hwynt gerbron y bobl. Ac yr oedd ganddynt ychydig bysgod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi’r rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt. A hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o’r briwfwyd gweddill, saith fasgedaid. A’r rhai a fwytasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith. Ac yn y man, wedi iddo fyned i long gyda’i ddisgyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha. A’r Phariseaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o’r nef, gan ei demtio. Yntau, gan ddwys ochneidio yn ei ysbryd, a ddywedodd, Beth a wna’r genhedlaeth yma yn ceisio arwydd? Yn wir meddaf i chwi, Ni roddir arwydd i’r genhedlaeth yma. Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth i’r llong drachefn, ac a dynnodd ymaith i’r lan arall. A’r disgyblion a adawsant yn angof gymryd bara, ac nid oedd ganddynt gyda hwynt ond un dorth yn y llong. Yna y gorchmynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, a surdoes Herod. Ac ymresymu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, Hyn sydd oblegid nad oes gennym fara. A phan wybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymu yr ydych, am nad oes gennych fara? onid ydych chwi eto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon eto gennych wedi caledu? A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio? Pan dorrais y pum torth hynny ymysg y pum mil, pa sawl basgedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fyny? Dywedasant wrtho, Deuddeg. A phan dorrais y saith ymhlith y pedair mil, llonaid pa sawl basged o friwfwyd a godasoch i fyny? A hwy a ddywedasant, Saith. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?