Marc 6:37-38
Marc 6:37-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd yntau hwy, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent wrtho, “A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a'i roi iddynt i'w fwyta?” Meddai yntau wrthynt, “Pa sawl torth sydd gennych? Ewch i edrych.” Ac wedi cael gwybod dywedasant, “Pump, a dau bysgodyn.”
Marc 6:37-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond atebodd Iesu, “Rhowch chi rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.” “Beth? Ni?” medden nhw, “Byddai’n costio ffortiwn i gael bwyd iddyn nhw i gyd!” “Ewch i weld faint o fwyd sydd ar gael,” meddai. Dyma nhw’n gwneud hynny, a dod yn ôl a dweud, “Pum torth fach a dau bysgodyn!”
Marc 6:37-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a’i roddi iddynt i’w fwyta? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn.