Marc 5:33-34
Marc 5:33-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y wraig yn gwybod yn iawn beth oedd wedi digwydd iddi, ac felly dyma hi’n dod ac yn syrthio o’i flaen yn dal i grynu. Dwedodd yr hanes i gyd wrtho. Yna meddai e wrthi, “Ferch annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti! Mae’r dioddef ar ben.”
Marc 5:33-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir. Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”
Marc 5:33-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd. Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o’th bla.