Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 5:1-20

Marc 5:1-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daethant i'r ochr draw i'r môr i wlad y Geraseniaid. A phan ddaeth allan o'r cwch, ar unwaith daeth i'w gyfarfod o blith y beddau ddyn ag ysbryd aflan ynddo. Yr oedd hwn yn cartrefu ymhlith y beddau, ac ni allai neb mwyach ei rwymo hyd yn oed â chadwyn, oherwydd yr oedd wedi cael ei rwymo'n fynych â llyffetheiriau ac â chadwynau, ond yr oedd y cadwynau wedi eu rhwygo ganddo a'r llyffetheiriau wedi eu dryllio; ac ni fedrai neb ei ddofi. Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac ar y mynyddoedd, byddai'n gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig. A phan welodd Iesu o bell, rhedodd a syrthio ar ei liniau o'i flaen, a gwaeddodd â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio.” Oherwydd yr oedd Iesu wedi dweud wrtho, “Dos allan, ysbryd aflan, o'r dyn.” A gofynnodd iddo, “Beth yw dy enw?” Meddai yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, oherwydd y mae llawer ohonom.” Ac yr oedd yn ymbil yn daer arno beidio â'u gyrru allan o'r wlad. Yr oedd yno ar lethr y mynydd genfaint fawr o foch yn pori. Ac ymbiliodd yr ysbrydion aflan arno, “Anfon ni i'r moch; gad i ni fynd i mewn iddynt hwy.” Ac fe ganiataodd iddynt. Aeth yr ysbrydion aflan allan o'r dyn ac i mewn i'r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr, tua dwy fil ohonynt, a boddi yn y môr. Ffodd bugeiliaid y moch ac adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad, a daeth y bobl i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu a gweld y dyn, hwnnw yr oedd y lleng cythreuliaid wedi bod ynddo, yn eistedd â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn. Adroddwyd wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld beth oedd wedi digwydd i'r dyn ym meddiant cythreuliaid, a'r hanes am y moch hefyd. A dechreusant erfyn arno fynd ymaith o'u gororau. Ac wrth iddo fynd i mewn i'r cwch, yr oedd y dyn a oedd wedi bod ym meddiant y cythreuliaid yn erfyn arno am gael bod gydag ef. Ni adawodd iddo, ond meddai wrtho, “Dos adref at dy bobl dy hun a mynega iddynt gymaint y mae'r Arglwydd wedi ei wneud drosot, a'r modd y tosturiodd wrthyt.” Aeth yntau ymaith a dechrau cyhoeddi yn y Decapolis gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto; ac yr oedd pawb yn rhyfeddu.

Marc 5:1-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma nhw’n croesi’r llyn i ardal Gerasa. Wrth i Iesu gamu allan o’r cwch, dyma ddyn oedd ag ysbryd drwg ynddo yn dod ato o gyfeiriad y fynwent – yno roedd yn byw, yng nghanol y beddau. Allai neb gadw rheolaeth arno, hyd yn oed drwy roi cadwyni arno. Roedd yn aml yn cael ei rwymo gyda chadwyni am ei ddwylo a’i draed, ond lawer gwaith roedd wedi llwyddo i dorri’r cadwyni a dianc. Doedd neb yn gallu ei gadw dan reolaeth. A dyna lle roedd, ddydd a nos, yn y fynwent ac ar y bryniau cyfagos yn sgrechian ac anafu ei hun â cherrig. Pan welodd Iesu’n dod o bell, rhedodd i’w gyfeiriad a phlygu ar lawr o’i flaen. Rhoddodd sgrech a gwaeddodd nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Paid poenydio fi er mwyn Duw!” (Roedd Iesu newydd orchymyn i’r ysbryd drwg ddod allan o’r dyn.) Gofynnodd Iesu iddo wedyn, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng ydw i,” atebodd, “achos mae llawer iawn ohonon ni yma.” Roedden nhw’n crefu ar i Iesu i beidio’u hanfon nhw i ffwrdd o’r ardal honno. Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos, a dyma’r ysbrydion drwg yn pledio arno, “Anfon ni i’r moch acw; gad i ni fyw ynddyn nhw.” Dyma Iesu’n rhoi caniatâd iddyn nhw fynd, ac allan a’r ysbrydion drwg o’r dyn ac i mewn i’r moch. Dyma’r moch i gyd, tua dwy fil ohonyn nhw, yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i’r llyn, a boddi. Dyma’r rhai oedd yn gofalu am y moch yn rhedeg i ffwrdd a dweud wrth bawb ym mhobman beth oedd wedi digwydd. Pan ddaeth y bobl allan at Iesu i weld drostyn nhw eu hunain, roedden nhw wedi dychryn. Dyna lle roedd y dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid, yn eistedd yn dawel gyda dillad amdano ac yn ei iawn bwyll. Pan ddwedodd y llygad-dystion eto beth oedd wedi digwydd i’r dyn a’r moch, dyma’r bobl yn mynnu fod Iesu’n gadael eu hardal. Pan oedd Iesu ar fin mynd i mewn i’r cwch, dyma’r dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid yn dod ato ac erfyn am gael aros gydag e. “Na,” meddai Iesu, “Dos adre at dy deulu a dywed wrthyn nhw am y cwbl mae Duw wedi’i wneud i ti, a sut mae wedi bod mor drugarog.” Felly i ffwrdd â’r dyn a dechrau dweud wrth bawb yn ardal Decapolis am bopeth oedd Iesu wedi’i wneud iddo. Roedd pawb wedi’u syfrdanu.

Marc 5:1-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A hwy a ddaethant i’r tu hwnt i’r môr, i wlad y Gadareniaid. Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo, Yr hwn oedd â’i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef: Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono’r cadwynau, a dryllio’r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef. Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig. Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a’i haddolodd ef; A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi. (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o’r dyn.) Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom. Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o’r wlad. Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori. A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt. Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A’r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i’r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a’u boddwyd yn y môr. A’r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid. A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai’r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant. A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i’r cythreulig, ac am y moch. A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt. Ac efe yn myned i’r llong, yr hwn y buasai’r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef. Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.