Marc 4:35-41
Marc 4:35-41 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn hwyr y p’nawn hwnnw, a hithau’n dechrau nosi, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Gadewch i ni groesi i ochr draw’r llyn.” Felly dyma nhw’n gadael y dyrfa, a mynd gyda Iesu yn y cwch roedd wedi bod yn eistedd ynddo. Aeth cychod eraill gyda nhw hefyd. Yn sydyn cododd storm ofnadwy. Roedd y tonnau mor wyllt nes bod dŵr yn dod i mewn i’r cwch ac roedd mewn peryg o suddo. Ond roedd Iesu’n cysgu’n drwm drwy’r cwbl ar glustog yn starn y cwch. Dyma’r disgyblion mewn panig yn ei ddeffro, “Athro, wyt ti ddim yn poeni ein bod ni’n mynd i foddi?” Cododd Iesu a cheryddu’r gwynt, a dweud wrth y tonnau, “Distaw! Byddwch lonydd!” Ac yn sydyn stopiodd y gwynt chwythu ac roedd pobman yn hollol dawel. Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Pam dych chi mor ofnus? Ydych chi’n dal ddim yn credu?” Roedden nhw wedi’u syfrdanu’n llwyr. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed y gwynt a’r tonnau yn ufuddhau iddo!”
Marc 4:35-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A'r diwrnod hwnnw, gyda'r nos, dywedodd wrthynt, “Awn drosodd i'r ochr draw.” A gadawsant y dyrfa, a mynd ag ef yn y cwch fel yr oedd; yr oedd cychod eraill hefyd gydag ef. Cododd tymestl fawr o wynt, ac yr oedd y tonnau'n ymdaflu i'r cwch, nes ei fod erbyn hyn yn llenwi. Yr oedd ef yn starn y cwch yn cysgu ar glustog. Deffroesant ef a dweud wrtho, “Athro, a wyt ti'n hidio dim ei bod ar ben arnom?” Ac fe ddeffrôdd a cheryddu'r gwynt a dweud wrth y môr, “Bydd ddistaw! Bydd dawel!” Gostegodd y gwynt, a bu tawelwch mawr. A dywedodd wrthynt, “Pam y mae arnoch ofn? Sut yr ydych heb ffydd o hyd?” Daeth ofn dirfawr arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy ynteu yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo.”
Marc 4:35-41 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i’r tu draw. Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef. Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian. Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni? Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd? Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?