Marc 4:24-25
Marc 4:24-25 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna aeth yn ei flaen i ddweud, “Gwyliwch beth dych chi’n gwrando arno. Y mesur dych chi’n ei ddefnyddio fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi – a mwy! Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim, bydd hyd yn oed beth maen nhw’n meddwl eu bod yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”
Marc 4:24-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd wrthynt hefyd, “Ystyriwch yr hyn a glywch. Â'r mesur y rhowch y rhoir i chwithau, a rhagor a roir ichwi. Oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.”
Marc 4:24-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch. Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.