Marc 4:13-20
Marc 4:13-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Os dych chi ddim yn deall y stori yma, sut dych chi’n mynd i ddechrau deall unrhyw stori gen i! Mae’r ffermwr yn cynrychioli rhywun sy’n rhannu neges Duw gyda phobl. Yr had ar y llwybr ydy’r bobl hynny sy’n clywed y neges, ond mae Satan yn dod yr eiliad honno ac yn cipio’r neges oddi arnyn nhw. Wedyn yr had gafodd ei hau ar dir creigiog ydy’r bobl hynny sy’n derbyn y neges yn frwd i ddechrau. Ond dydy’r neges ddim yn gafael ynddyn nhw go iawn, a dŷn nhw ddim yn para’n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am eu bod wedi credu, maen nhw’n troi cefn yn ddigon sydyn. Wedyn mae pobl eraill yn gallu bod fel yr had syrthiodd i ganol drain. Maen nhw’n clywed y neges, ond maen nhw’n rhy brysur yn poeni am hyn a’r llall, yn ceisio gwneud arian a chasglu mwy a mwy o bethau. Felly mae’r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i’w weld yn eu bywydau. Ond yr had sy’n syrthio ar dir da ydy’r bobl hynny sy’n clywed y neges ac yn ei chredu. Mae’r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth – tri deg, chwe deg, neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
Marc 4:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac meddai wrthynt, “Onid ydych yn deall y ddameg hon? Sut ynteu yr ydych yn mynd i ddeall yr holl ddamhegion? Y mae'r heuwr yn hau y gair. Dyma'r rhai ar hyd y llwybr lle'r heuir y gair: cyn gynted ag y clywant, daw Satan ar unwaith a chipio'r gair sydd wedi ei hau ynddynt. A dyma'r rhai sy'n derbyn yr had ar dir creigiog: pan glywant hwy'r gair, derbyniant ef ar eu hunion yn llawen; ond nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, a thros dro y maent yn para. Yna pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwympant ar unwaith. Ac y mae eraill sy'n derbyn yr had ymhlith y drain: dyma'r rhai sydd wedi clywed y gair, ond y mae gofalon y byd hwn a hudoliaeth golud a chwantau am bopeth o'r fath yn dod i mewn ac yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth. A dyma'r rheini a dderbyniodd yr had ar dir da: y maent hwy'n clywed y gair ac yn ei groesawu, ac yn dwyn ffrwyth hyd ddeg ar hugain a hyd drigain a hyd ganwaith cymaint.”
Marc 4:13-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi’r ddameg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion? Yr heuwr sydd yn hau’r gair. A’r rhai hyn yw’r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt. A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen; Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt. A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair, Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu’r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth. A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.