Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 3:20-35

Marc 3:20-35 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Pan aeth Iesu yn ôl i’r tŷ lle roedd yn aros, roedd cymaint o dyrfa wedi casglu yno nes bod dim cyfle i’w ddisgyblion ac yntau gael bwyta hyd yn oed. Pan glywodd ei deulu am hyn, dyma nhw’n penderfynu fod rhaid rhoi stop ar y peth. “Mae’n wallgof”, medden nhw. Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi’i feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae’n gallu bwrw allan gythreuliaid!” Felly dyma Iesu’n eu galw draw ac yn eu hateb drwy ddefnyddio darlun: “Sut mae Satan yn gallu bwrw ei hun allan? Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll! Neu os ydy teulu’n ymladd â’i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw’n chwalu. A’r un fath, os ydy Satan yn ymladd yn erbyn ei hun a’i deyrnas wedi’i rhannu, fydd e ddim yn sefyll; mae hi ar ben arno! Y gwir ydy, all neb fynd i mewn i gartre’r dyn cryf a dwyn ei eiddo heb rwymo’r dyn cryf yn gyntaf. Bydd yn gallu dwyn popeth o’i dŷ wedyn. Credwch chi fi – mae maddeuant i’w gael am bob pechod, hyd yn oed am gabledd, ond does dim maddeuant i’r sawl sy’n cablu yn erbyn yr Ysbryd Glân; mae’r person hwnnw’n euog o bechod sy’n aros am byth.” (Dwedodd hyn am eu bod wedi dweud fod ysbryd drwg ynddo.) Dyna pryd y cyrhaeddodd mam Iesu a’i frodyr yno. Dyma nhw’n sefyll y tu allan, ac yn anfon rhywun i’w alw. Roedd tyrfa yn eistedd o’i gwmpas, a dyma nhw’n dweud wrtho, “Mae dy fam a dy frodyr y tu allan yn edrych amdanat ti.” Atebodd, “Pwy ydy fy mam a’m brodyr i?” “Dyma fy mam a’m brodyr i!” meddai, gan edrych ar y rhai oedd yn eistedd mewn cylch o’i gwmpas. “Mae pwy bynnag sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn frawd a chwaer a mam i mi.”

Marc 3:20-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth i'r tŷ; a dyma'r dyrfa'n ymgasglu unwaith eto, nes eu bod yn methu cymryd pryd o fwyd hyd yn oed. A phan glywodd ei deulu, aethant allan i'w atal ef, oherwydd dweud yr oeddent, “Y mae wedi colli arno'i hun.” A'r ysgrifenyddion hefyd, a oedd wedi dod i lawr o Jerwsalem, yr oeddent hwythau'n dweud, “Y mae Beelsebwl ynddo”, a, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae'n bwrw allan gythreuliaid.” Galwodd hwy ato ac meddai wrthynt ar ddamhegion: “Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Os bydd teyrnas yn ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni all y deyrnas honno sefyll. Ac os bydd tŷ yn ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni all y tŷ hwnnw sefyll. Ac os yw Satan wedi codi yn ei erbyn ei hun ac ymrannu, ni all yntau sefyll; y mae ar ben arno. Eithr ni all neb fynd i mewn i dŷ'r un cryf ac ysbeilio'i ddodrefn heb yn gyntaf rwymo'r un cryf; wedyn caiff ysbeilio'i dŷ ef. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, maddeuir popeth i blant y ddaear, eu pechodau a'u cableddau, beth bynnag fyddant; ond pwy bynnag a gabla yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant byth; y mae'n euog o bechod tragwyddol.” Dywedodd hyn oherwydd iddynt ddweud, “Y mae ysbryd aflan ynddo.” A daeth ei fam ef a'i frodyr, a chan sefyll y tu allan anfonasant ato i'w alw. Yr oedd tyrfa'n eistedd o'i amgylch, ac meddent wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr a'th chwiorydd y tu allan yn dy geisio.” Atebodd hwy, “Pwy yw fy mam i a'm brodyr?” A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o'i gwmpas, dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i. Pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”

Marc 3:20-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta bara. A phan glybu’r eiddo ef, hwy a aethant i’w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o’i bwyll. A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid. Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll. Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll. Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd. Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef. Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant: Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd: Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo. Daeth gan hynny ei frodyr ef a’i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef. A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio. Ac efe a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i? Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i. Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam i.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd