Marc 3:13-15
Marc 3:13-15 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Aeth Iesu i fyny i ben mynydd a galw ato y rhai roedd wedi’u dewis, a dyma nhw’n mynd ato. Dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol. Nhw fyddai gydag e drwy’r amser, ac roedd am eu hanfon allan i gyhoeddi’r newyddion da, a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw cythreuliaid allan o bobl.
Marc 3:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth i fyny i'r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato. Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu ac i feddu awdurdod i fwrw allan gythreuliaid.
Marc 3:13-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a esgynnodd i’r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato. Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.