Marc 3:1-6
Marc 3:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dro arall eto pan aeth Iesu i’r synagog, roedd yno ddyn oedd â’i law yn ddiffrwyth. Roedd yna rai yn gwylio Iesu’n ofalus i weld a fyddai’n iacháu’r dyn ar y Saboth. Roedden nhw’n edrych am unrhyw esgus i’w gyhuddo! Dyma Iesu’n galw’r dyn ato, “Tyrd i sefyll yma’n y canol.” Wedyn dyma Iesu’n gofyn i’r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae’r Gyfraith yn ei ddweud sy’n iawn i’w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb. Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un – roedd yn ddig ac wedi cynhyrfu drwyddo am eu bod mor ystyfnig. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i’r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella’n llwyr. Dyma’r Phariseaid yn mynd allan ar unwaith i drafod gyda chefnogwyr Herod sut allen nhw ladd Iesu.
Marc 3:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth i mewn eto i'r synagog, ac yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. Ac yr oeddent â'u llygaid arno i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn. A dywedodd wrth y dyn â'r llaw ddiffrwyth, “Saf yn y canol.” Yna dywedodd wrthynt, “A yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu lladd?” Yr oeddent yn fud. Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach. Ac fe aeth y Phariseaid allan ar eu hunion a chynllwyn â'r Herodianiaid yn ei erbyn, sut i'w ladd.
Marc 3:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef. Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn. Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynnodd: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. A’r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda’r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.