Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 3:1-19

Marc 3:1-19 beibl.net 2015, 2023 (BNET)

Dro arall eto pan aeth Iesu i’r synagog, roedd yno ddyn oedd â’i law yn ddiffrwyth. Roedd yna rai yn gwylio Iesu’n ofalus i weld a fyddai’n iacháu’r dyn ar y Saboth. Roedden nhw’n edrych am unrhyw esgus i’w gyhuddo! Dyma Iesu’n galw’r dyn ato, “Tyrd i sefyll yma’n y canol.” Wedyn dyma Iesu’n gofyn i’r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae’r Gyfraith yn ei ddweud sy’n iawn i’w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb. Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un – roedd yn ddig ac wedi cynhyrfu drwyddo am eu bod mor ystyfnig. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i’r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella’n llwyr. Dyma’r Phariseaid yn mynd allan ar unwaith i drafod gyda chefnogwyr Herod sut allen nhw ladd Iesu. Aeth Iesu at y llyn gyda’i ddisgyblion iddyn nhw gael ychydig o lonydd, ond dyma dyrfa fawr yn ei ddilyn – pobl o Galilea, ac o Jwdea, Jerwsalem, ac Idwmea yn y de, a hyd yn oed o’r ardaloedd yr ochr draw i’r Iorddonen ac o ardal Tyrus a Sidon yn y gogledd. Roedd pawb eisiau ei weld ar ôl clywed am y pethau roedd yn eu gwneud. Gan fod tyrfa mor fawr yno gofynnodd Iesu i’r disgyblion gael cwch bach yn barod, rhag ofn i’r dyrfa ei wasgu. Y broblem oedd fod cymaint o bobl oedd yn sâl yn gwthio ymlaen i’w gyffwrdd. Roedd pawb yn gwybod ei fod wedi iacháu cymaint o bobl. A phan oedd pobl wedi’u meddiannu gan ysbrydion drwg yn ei weld, roedden nhw’n syrthio ar lawr o’i flaen a gweiddi, “Mab Duw wyt ti!” Ond roedd Iesu’n eu rhybuddio nhw i beidio dweud pwy oedd e. Aeth Iesu i fyny i ben mynydd a galw ato y rhai roedd wedi’u dewis, a dyma nhw’n mynd ato. Dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol. Nhw fyddai gydag e drwy’r amser, ac roedd am eu hanfon allan i gyhoeddi’r newyddion da, a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw cythreuliaid allan o bobl. Y deuddeg a ddewisodd oedd: Simon (yr un roedd Iesu’n ei alw’n Pedr); Iago fab Sebedeus a’i frawd Ioan (“Meibion y Daran” oedd Iesu’n eu galw nhw); Andreas, Philip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot a Jwdas Iscariot (wnaeth ei fradychu).

Marc 3:1-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Aeth i mewn eto i'r synagog, ac yno yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. Ac yr oeddent â'u llygaid arno i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth, er mwyn cael cyhuddiad i'w ddwyn yn ei erbyn. A dywedodd wrth y dyn â'r llaw ddiffrwyth, “Saf yn y canol.” Yna dywedodd wrthynt, “A yw'n gyfreithlon gwneud da ar y Saboth, ynteu gwneud drwg, achub bywyd, ynteu lladd?” Yr oeddent yn fud. Yna edrychodd o gwmpas arnynt mewn dicter, yn drist oherwydd eu hystyfnigrwydd, a dywedodd wrth y dyn, “Estyn dy law.” Estynnodd yntau hi, a gwnaed ei law yn iach. Ac fe aeth y Phariseaid allan ar eu hunion a chynllwyn â'r Herodianiaid yn ei erbyn, sut i'w ladd. Aeth Iesu ymaith gyda'i ddisgyblion i lan y môr, ac fe ddilynodd tyrfa fawr o Galilea. Ac o Jwdea a Jerwsalem, o Idwmea a'r tu hwnt i'r Iorddonen a chylch Tyrus a Sidon, daeth tyrfa fawr ato, wedi iddynt glywed y fath bethau mawr yr oedd ef yn eu gwneud. A dywedodd wrth ei ddisgyblion am gael cwch yn barod iddo rhag i'r dyrfa wasgu arno. Oherwydd yr oedd wedi iacháu llawer, ac felly yr oedd yr holl gleifion yn ymwthio ato i gyffwrdd ag ef. Pan fyddai'r ysbrydion aflan yn ei weld, byddent yn syrthio o'i flaen ac yn gweiddi, “Ti yw Mab Duw.” A byddai yntau yn eu rhybuddio hwy yn bendant i beidio â'i wneud yn hysbys. Aeth i fyny i'r mynydd a galwodd ato y rhai a fynnai ef, ac aethant ato. Penododd ddeuddeg er mwyn iddynt fod gydag ef, ac er mwyn eu hanfon hwy i bregethu ac i feddu awdurdod i fwrw allan gythreuliaid. Felly y penododd y Deuddeg, ac ar Simon rhoes yr enw Pedr; yna Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, a rhoes arnynt hwy yr enw Boanerges, hynny yw, “Meibion y Daran”; ac Andreas a Philip a Bartholomeus a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Selot, a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.

Marc 3:1-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef. Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn. Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynnodd: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. A’r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda’r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr: a lliaws mawr a’i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea, Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef. Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt. A’r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw. Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef. Ac efe a esgynnodd i’r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato. Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid. Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr; Ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;) Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead, A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd