Marc 2:4-5
Marc 2:4-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw’n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni. Pan welodd Iesu’r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi’i barlysu, “Ffrind, mae dy bechodau wedi’u maddau.”
Marc 2:4-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A chan eu bod yn methu dod â'r claf ato oherwydd y dyrfa, agorasant do'r tŷ lle'r oedd, ac wedi iddynt dorri trwodd dyma hwy'n gollwng i lawr y fatras yr oedd y claf yn gorwedd arni. Pan welodd Iesu eu ffydd hwy dywedodd wrth y claf, “Fy mab, maddeuwyd dy bechodau.”
Marc 2:4-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa, didoi’r to a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai’r claf o’r parlys. A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau.