Marc 2:23-28
Marc 2:23-28 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd Iesu’n croesi drwy ganol caeau ŷd ryw ddydd Saboth, a dyma’i ddisgyblion yn dechrau tynnu rhai o’r tywysennau ŷd. “Edrych!” meddai’r Phariseaid, “Pam mae dy ddisgyblion yn torri rheolau’r Gyfraith ar y Saboth?” Atebodd Iesu nhw, “Ydych chi erioed wedi darllen beth wnaeth Dafydd pan oedd e a’i griw o ddilynwyr yn llwgu? Pan oedd Abiathar yn archoffeiriad aeth i mewn i dŷ Dduw a bwyta’r bara oedd wedi’i gysegru a’i osod yn offrwm i Dduw. Mae’r Gyfraith yn dweud mai dim ond yr offeiriaid sy’n cael ei fwyta, ond cymerodd Dafydd beth, a’i roi i’w ddilynwyr hefyd.” Yna dwedodd wrthyn nhw, “Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl. Felly mae gen i, Fab y Dyn, hawl i ddweud beth sy’n iawn hyd yn oed ar y Saboth.”
Marc 2:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Un Saboth yr oedd yn mynd trwy'r caeau ŷd, a dechreuodd ei ddisgyblion dynnu'r tywysennau wrth fynd. Ac meddai'r Phariseaid wrtho, “Edrych, pam y maent yn gwneud peth sy'n groes i'r Gyfraith ar y Saboth?” Dywedodd yntau wrthynt, “Onid ydych chwi erioed wedi darllen beth a wnaeth Dafydd, pan oedd mewn angen, ac eisiau bwyd arno ef a'r rhai oedd gydag ef? Sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw, yn amser Abiathar yr archoffeiriad, a bwyta'r torthau cysegredig nad yw'n gyfreithlon i neb eu bwyta ond yr offeiriaid; ac fe'u rhoddodd hefyd i'r rhai oedd gydag ef?” Dywedodd wrthynt hefyd, “Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth. Felly y mae Mab y Dyn yn arglwydd hyd yn oed ar y Saboth.”
Marc 2:23-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y Saboth; a’i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu’r tywys. A’r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef? Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archoffeiriad, ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i’r offeiriaid yn unig, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth: Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth.