Marc 2:13-17
Marc 2:13-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth Iesu allan at y llyn unwaith eto. Daeth tyrfa fawr o bobl ato, ac roedd yn eu dysgu. Yna wrth fynd yn ei flaen, gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Lefi ar unwaith a mynd ar ei ôl. Yn nes ymlaen aeth Iesu a’i ddisgyblion am bryd o fwyd i dŷ Lefi. Roedd criw mawr o’r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain yn y parti hefyd, a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‘bechaduriaid’. (Pobl felly oedd llawer o’r rhai oedd yn dilyn Iesu.) Wrth iddyn nhw ei weld e’n bwyta gyda ‘pechaduriaid’ a chasglwyr trethi, dyma rai o’r Phariseaid oedd yn arbenigwyr yn y Gyfraith yn gofyn i’w ddisgyblion: “Pam mae e’n bwyta gyda’r bradwyr sy’n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy’n ddim byd ond ‘pechaduriaid’?” Clywodd Iesu hyn, a dwedodd wrthyn nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai sy’n meddwl eu bod nhw heb fai.”
Marc 2:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth allan eto i lan y môr; ac yr oedd yr holl dyrfa'n dod ato, ac yntau'n eu dysgu hwy. Ac wrth fynd heibio gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Canlyn fi.” Cododd yntau a chanlynodd ef. Ac yr oedd wrth bryd bwyd yn ei dŷ, ac yr oedd llawer o gasglwyr trethi ac o bechaduriaid yn cydfwyta gyda Iesu a'i ddisgyblion—oherwydd yr oedd llawer ohonynt yn ei ganlyn ef. A phan welodd yr ysgrifenyddion o blith y Phariseaid ei fod yn bwyta gyda'r pechaduriaid a'r casglwyr trethi, dywedasant wrth ei ddisgyblion, “Pam y mae ef yn bwyta gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Clywodd Iesu, a dywedodd wrthynt, “Nid ar y cryfion, ond ar y cleifion, y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
Marc 2:13-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth ato; ac efe a’u dysgodd hwynt. Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a’i canlynodd ef. A bu, a’r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda’r Iesu a’i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a’i canlynasent ef. A phan welodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef yn bwyta gyda’r publicanod a’r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda’r publicanod a’r pechaduriaid? A’r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.