Marc 16:1-9
Marc 16:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn hwyr ar y nos Sadwrn, pan oedd y Saboth drosodd, aeth Mair Magdalen, Salome a Mair mam Iago i brynu perlysiau ar gyfer eneinio corff Iesu. Yna’n gynnar iawn ar y bore Sul, pan oedd hi yn gwawrio, dyma nhw’n mynd at y bedd. Roedden nhw wedi bod yn trafod ar eu ffordd yno pwy oedd yn mynd i rolio’r garreg oddi ar geg y bedd iddyn nhw. Ond pan gyrhaeddon nhw’r bedd dyma nhw’n gweld fod y garreg, oedd yn un drom iawn, eisoes wedi’i rholio i ffwrdd. Wrth gamu i mewn i’r bedd, dyma nhw’n dychryn, achos roedd dyn ifanc yn gwisgo mantell wen yn eistedd yno ar yr ochr dde. “Peidiwch dychryn,” meddai wrthyn nhw. “Dych chi’n edrych am Iesu o Nasareth gafodd ei groeshoelio. Mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dydy e ddim yma. Edrychwch, dyma lle cafodd ei gorff ei roi i orwedd. Ewch, a dweud wrth ei ddisgyblion a Pedr, ‘Mae Iesu’n mynd i Galilea o’ch blaen chi. Cewch ei weld yno, yn union fel roedd wedi dweud.’” Dyma’r gwragedd yn mynd allan ac yn rhedeg oddi wrth y bedd, yn crynu drwyddynt ac mewn dryswch. Roedd ganddyn nhw ofn dweud wrth unrhyw un am y peth. Pan ddaeth Iesu yn ôl yn fyw yn gynnar ar y bore Sul, dangosodd ei hun gyntaf i Mair Magdalen, y wraig y bwriodd saith o gythreuliaid allan ohoni.
Marc 16:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi i'r Saboth fynd heibio, prynodd Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau, er mwyn mynd i'w eneinio ef. Ac yn fore iawn ar y dydd cyntaf o'r wythnos, a'r haul newydd godi, dyma hwy'n dod at y bedd. Ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy a dreigla'r maen i ffwrdd oddi wrth ddrws y bedd i ni?” Ond wedi edrych i fyny, gwelsant fod y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd; oherwydd yr oedd yn un mawr iawn. Aethant i mewn i'r bedd, a gwelsant ddyn ifanc yn eistedd ar yr ochr dde, a gwisg laes wen amdano, a daeth arswyd arnynt. Meddai yntau wrthynt, “Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma'r man lle gosodasant ef. Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. ‘Y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’ ” Daethant allan, a ffoi oddi wrth y bedd, oherwydd yr oeddent yn crynu o arswyd. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb, oherwydd yr oedd ofn arnynt. Ar ôl atgyfodi yn fore ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ymddangosodd yn gyntaf i Fair Magdalen, gwraig yr oedd wedi bwrw saith gythraul ohoni.
Marc 16:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi darfod y dydd Saboth, Mair Magdalen, a Mair mam Iago, a Salome, a brynasant beraroglau, i ddyfod i’w eneinio ef. Ac yn fore iawn, y dydd cyntaf o’r wythnos, y daethant at y bedd, a’r haul wedi codi. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymaith oddi wrth ddrws y bedd? (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fod y maen wedi ei dreiglo ymaith;) canys yr oedd efe yn fawr iawn. Ac wedi iddynt fyned i mewn i’r bedd, hwy a welsant fab ieuanc yn eistedd o’r tu deau, wedi ei ddilladu â gwisg wenllaes; ac a ddychrynasant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch. Ceisio yr ydych yr Iesu o Nasareth, yr hwn a groeshoeliwyd: efe a gyfododd; nid yw efe yma: wele y man y dodasant ef. Eithr ewch ymaith, dywedwch i’w ddisgyblion ef, ac i Pedr, ei fod ef yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno y cewch ei weled ef, fel y dywedodd i chwi. Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni. A’r Iesu, wedi atgyfodi y bore y dydd cyntaf o’r wythnos, a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Magdalen, o’r hon y bwriasai efe allan saith o gythreuliaid.