Marc 15:40-47
Marc 15:40-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd nifer o wragedd hefyd yn sefyll yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell, gan gynnwys Mair Magdalen, Mair mam Iago bach a Joses, a hefyd Salome. Roedden nhw wedi bod yn dilyn Iesu o gwmpas Galilea gan wneud yn siŵr fod ganddo bopeth roedd ei angen. Roedden nhw, a llawer o wragedd eraill wedi dod i Jerwsalem gydag e. Roedd hi’n nos Wener (sef y diwrnod cyn y Saboth). Wrth iddi ddechrau nosi aeth un o aelodau blaenllaw y Sanhedrin i weld Peilat – dyn o’r enw Joseff oedd yn dod o Arimathea. Roedd Joseff yn ddyn duwiol oedd yn disgwyl am deyrnasiad Duw, a gofynnodd i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu. Roedd Peilat yn methu credu bod Iesu eisoes wedi marw, a galwodd am y capten a gofyn iddo a oedd wedi marw ers peth amser. Pan ddwedodd hwnnw ei fod, rhoddodd Peilat ganiatâd i Joseff gymryd y corff. Ar ôl prynu lliain dyma Joseff yn tynnu’r corff i lawr a’i lapio yn y lliain. Yna fe’i rhoddodd i orwedd mewn bedd oedd wedi’i naddu yn y graig. Wedyn rholiodd garreg dros geg y bedd. Roedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yno’n edrych lle cafodd ei osod.
Marc 15:40-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome, gwragedd a fu'n ei ganlyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o wragedd eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem. Yr oedd hi eisoes yn hwyr, a chan ei bod yn ddydd Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth, daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau'n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu. Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin. Ac wedi cael gwybod gan y canwriad, rhoddodd y corff i Joseff. Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a'i amdói yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o'r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd. Ac yr oedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef.
Marc 15:40-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome; Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a’i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem. Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar-ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,) Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin. A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff. Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdôdd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd. A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.