Marc 15:38-39
Marc 15:38-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, “Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn.”
Rhanna
Darllen Marc 15Marc 15:38-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma’r llen oedd yn hongian yn y deml yn rhwygo yn ei hanner o’r top i’r gwaelod. Roedd capten milwrol Rhufeinig yn sefyll yno wrth y groes. Pan welodd sut buodd Iesu farw, ei eiriau oedd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!”
Rhanna
Darllen Marc 15Marc 15:38-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered. A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.
Rhanna
Darllen Marc 15