Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 15:33-47

Marc 15:33-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

O ganol dydd hyd dri o’r gloch y p’nawn aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd. Yna am dri o’r gloch gwaeddodd Iesu’n uchel, “Eloi! Eloi! L’ma sabachtâni?” sy’n golygu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam wyt ti wedi troi dy gefn arna i?” Pan glywodd rhai o’r bobl oedd yn sefyll yno hyn, “Ust!” medden nhw, “Mae’n galw ar y proffwyd Elias am help.” Dyma un ohonyn nhw’n rhedeg ac yn trochi ysbwng mewn gwin sur rhad, a’i godi ar flaen ffon i’w gynnig i Iesu ei yfed. “Gadewch lonydd iddo,” meddai, “i ni gael gweld os daw Elias i’w dynnu i lawr.” Ond yna dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, yna stopio anadlu a marw. A dyma’r llen oedd yn hongian yn y deml yn rhwygo yn ei hanner o’r top i’r gwaelod. Roedd capten milwrol Rhufeinig yn sefyll yno wrth y groes. Pan welodd sut buodd Iesu farw, ei eiriau oedd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!” Roedd nifer o wragedd hefyd yn sefyll yn gwylio beth oedd yn digwydd o bell, gan gynnwys Mair Magdalen, Mair mam Iago bach a Joses, a hefyd Salome. Roedden nhw wedi bod yn dilyn Iesu o gwmpas Galilea gan wneud yn siŵr fod ganddo bopeth roedd ei angen. Roedden nhw, a llawer o wragedd eraill wedi dod i Jerwsalem gydag e. Roedd hi’n nos Wener (sef y diwrnod cyn y Saboth). Wrth iddi ddechrau nosi aeth un o aelodau blaenllaw y Sanhedrin i weld Peilat – dyn o’r enw Joseff oedd yn dod o Arimathea. Roedd Joseff yn ddyn duwiol oedd yn disgwyl am deyrnasiad Duw, a gofynnodd i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu. Roedd Peilat yn methu credu bod Iesu eisoes wedi marw, a galwodd am y capten a gofyn iddo a oedd wedi marw ers peth amser. Pan ddwedodd hwnnw ei fod, rhoddodd Peilat ganiatâd i Joseff gymryd y corff. Ar ôl prynu lliain dyma Joseff yn tynnu’r corff i lawr a’i lapio yn y lliain. Yna fe’i rhoddodd i orwedd mewn bedd oedd wedi’i naddu yn y graig. Wedyn rholiodd garreg dros geg y bedd. Roedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yno’n edrych lle cafodd ei osod.

Marc 15:33-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn. Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu â llef uchel, “Eloï, Eloï, lema sabachthani”, hynny yw, o'i gyfieithu, “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?” O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, “Clywch, y mae'n galw ar Elias.” Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng â gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. “Gadewch inni weld,” meddai, “a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr.” Ond rhoes Iesu lef uchel, a bu farw. A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o'r pen i'r gwaelod. Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, “Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn.” Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome, gwragedd a fu'n ei ganlyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o wragedd eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem. Yr oedd hi eisoes yn hwyr, a chan ei bod yn ddydd Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth, daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau'n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu. Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin. Ac wedi cael gwybod gan y canwriad, rhoddodd y corff i Joseff. Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a'i amdói yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o'r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd. Ac yr oedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef.

Marc 15:33-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o’i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? A rhai o’r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias. Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr, ac a’i dododd ar gorsen, ac a’i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr. A’r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â’r ysbryd. A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered. A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn. Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome; Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a’i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem. Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar-ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,) Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin. A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff. Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdôdd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd. A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.