Marc 14:35-36
Marc 14:35-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar y ddaear a gweddïo ar i'r awr, petai'n bosibl, fynd heibio iddo. “Abba! Dad!” meddai, “y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di.”
Marc 14:35-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i’r profiad ofnadwy oedd o’i flaen fynd i ffwrdd petai hynny’n bosib. “ Abba ! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.”
Marc 14:35-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.