Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 14:32-72

Marc 14:32-72 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Iesu’n mynd gyda’i ddisgyblion i le o’r enw Gethsemane. “Eisteddwch chi yma,” meddai wrthyn nhw, “dw i’n mynd i weddïo.” Aeth a Pedr, Iago ac Ioan gydag e, a dechreuodd brofi dychryn a gwewyr meddwl oedd yn ei lethu. “Mae’r tristwch dw i’n ei deimlo yn ddigon i’m lladd i,” meddai wrthyn nhw. “Arhoswch yma a gwylio.” Aeth yn ei flaen ychydig, a syrthio ar lawr a gweddïo i’r profiad ofnadwy oedd o’i flaen fynd i ffwrdd petai hynny’n bosib. “ Abba ! Dad!” meddai, “Mae popeth yn bosib i ti. Cymer y cwpan chwerw yma oddi arna i. Ond paid gwneud beth dw i eisiau, gwna beth rwyt ti eisiau.” Pan aeth yn ôl at ei ddisgyblion roedden nhw’n cysgu. A meddai wrth Pedr, “Simon, wyt ti’n cysgu? Allet ti ddim cadw golwg am un awr fechan? Cadwch yn effro, a gweddïwch y byddwch chi ddim yn syrthio pan gewch chi’ch profi. Mae’r ysbryd yn frwd, ond y corff yn wan.” Yna aeth Iesu i ffwrdd a gweddïo’r un peth eto. Ond pan ddaeth yn ôl roedden nhw wedi syrthio i gysgu eto – roedden nhw’n methu’n lân â chadw eu llygaid ar agor. Doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w ddweud. Pan ddaeth yn ôl y drydedd waith, meddai wrthyn nhw, “Dych chi’n cysgu eto? Dal i orffwys? Dyna ni, mae’r foment wedi dod. Dw i, Mab y Dyn, ar fin cael fy mradychu i afael pechaduriaid. Codwch, gadewch i ni fynd! Mae’r bradwr wedi cyrraedd!” Ac ar unwaith, wrth iddo ddweud y peth, dyma Jwdas yn cyrraedd, un o’r deuddeg disgybl, gyda thyrfa yn cario cleddyfau a phastynau. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a’r arweinwyr Iddewig eraill wedi’u hanfon nhw i ddal Iesu. Roedd Jwdas y bradwr wedi trefnu y byddai’n rhoi arwydd iddyn nhw: “Yr un fydda i’n ei gyfarch â chusan ydy’r dyn; arestiwch e, a’i gadw yn y ddalfa.” Pan gyrhaeddodd, aeth Jwdas yn syth at Iesu. “Rabbi!” meddai, ac yna ei gyfarch â chusan. Yna gafaelodd y lleill yn Iesu a’i arestio. Ond dyma un o’r rhai oedd yno yn tynnu cleddyf allan a tharo gwas yr archoffeiriad. Torrodd ei glust i ffwrdd. “Ydw i’n arwain gwrthryfel neu rywbeth?” meddai Iesu. “Ai dyna pam mae angen y cleddyfau a’r pastynau yma? Pam wnaethoch chi ddim fy arestio i yn y deml? Rôn i yno gyda chi bob dydd, yn dysgu’r bobl. Ond rhaid i bethau ddigwydd fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud.” Dyma’r disgyblion i gyd yn ei adael, a dianc. Ond roedd un dyn ifanc yn dilyn Iesu, yn gwisgo dim amdano ond crys nos o liain. Dyma nhw’n ceisio ei ddal e, ond gadawodd ei grys a rhedodd y bachgen i ffwrdd yn noeth. Dyma nhw’n mynd â Iesu at yr archoffeiriad. Roedd y prif offeiriaid a’r arweinwyr eraill, a’r arbenigwyr yn y Gyfraith wedi dod at ei gilydd. Roedd Pedr wedi bod yn dilyn o bell. Aeth i mewn i iard tŷ’r archoffeiriad. Eisteddodd yno gyda’r swyddogion diogelwch yn cadw’n gynnes wrth y tân. Roedd y prif offeiriaid a’r Sanhedrin (hynny ydy yr uchel-lys Iddewig) yn edrych am dystiolaeth yn erbyn Iesu er mwyn ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond chawson nhw ddim tystiolaeth, er fod digon o bobl yn barod i ddweud celwydd ar lw. Y broblem oedd fod eu straeon yn gwrth-ddweud ei gilydd. Yn y diwedd, dyma rhywrai’n tystio fel hyn (dweud celwydd oedden nhw): “Clywon ni e’n dweud, ‘Dw i’n mynd i ddinistrio’r deml yma sydd wedi’i hadeiladu gan ddynion a chodi un arall o fewn tri diwrnod heb help dynion.’” Hyd yn oed wedyn doedd eu tystiolaeth ddim yn gyson! Felly dyma’r archoffeiriad yn codi ar ei draed ac yn gofyn i Iesu, “Wel, oes gen ti ateb? Beth am y dystiolaeth yma yn dy erbyn di?” Ond ddwedodd Iesu ddim gair. Yna gofynnodd yr archoffeiriad eto, “Ai ti ydy’r Meseia, Mab yr Un Bendigedig?” “Ie, fi ydy e,” meddai Iesu. “A byddwch chi’n fy ngweld i, Mab y Dyn, yn llywodraethu gyda’r Un Grymus ac yn dod yn ôl ar gymylau’r awyr.” Wrth glywed yr hyn ddwedodd Iesu dyma’r archoffeiriad yn rhwygo’i ddillad. “Pam mae angen tystion arnon ni?!” meddai. “Dych chi i gyd wedi’i glywed yn cablu. Beth ydy’ch dyfarniad chi?” A dyma nhw i gyd yn dweud ei fod yn haeddu ei gondemnio i farwolaeth. Yna dyma rai ohonyn nhw’n dechrau poeri ato, a rhoi mwgwd dros ei lygaid, a’i ddyrnu yn ei wyneb. “Tyrd, Proffwyda!”, medden nhw. Wedyn dyma’r swyddogion diogelwch yn ei gymryd i ffwrdd a’i guro. Yn y cyfamser, roedd Pedr yn yr iard i lawr y grisiau, a daeth un o forynion yr archoffeiriad heibio. Digwyddodd sylwi ar Pedr yn cadw’n gynnes yno, a stopiodd i edrych arno. “Roeddet ti’n un o’r rhai oedd gyda’r Nasaread Iesu yna!” meddai. Ond gwadu wnaeth Pedr. “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti’n sôn,” meddai, ac aeth allan at y fynedfa. Ond dyma’r forwyn yn ei weld eto, ac meddai wrth y rhai oedd yn sefyll o gwmpas yno, “Mae hwn yn un ohonyn nhw.” Ond gwadu wnaeth Pedr eto. Ychydig wedyn, dyma rai eraill oedd yn sefyll yno yn dweud wrth Pedr, “Ti’n un ohonyn nhw yn bendant! Mae’n amlwg dy fod ti’n dod o Galilea.” Dyma Pedr yn dechrau rhegi a melltithio, “Dw i ddim yn nabod y dyn yma dych chi’n sôn amdano!” A’r foment honno dyma’r ceiliog yn canu am yr ail waith. Yna cofiodd Pedr eiriau Iesu: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i’r ceiliog ganu ddwywaith.” Torrodd i lawr a beichio crio.

Marc 14:32-72 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daethant i le o'r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo.” Ac fe gymerodd gydag ef Pedr ac Iago ac Ioan, a dechreuodd deimlo arswyd a thrallod dwys, ac meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch.” Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar y ddaear a gweddïo ar i'r awr, petai'n bosibl, fynd heibio iddo. “Abba! Dad!” meddai, “y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di.” Daeth yn ôl a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni ellaist wylio am un awr? Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.” Aeth ymaith drachefn a gweddïo, gan lefaru'r un geiriau. A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm; ac ni wyddent beth i'w ddweud wrtho. Daeth y drydedd waith, a dweud wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyna ddigon. Daeth yr awr; dyma Fab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid. Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agosáu.” Ac yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn cyrraedd, a chydag ef dyrfa yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion a'r henuriaid. Yr oedd ei fradychwr wedi rhoi arwydd iddynt gan ddweud, “Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef a mynd ag ef ymaith yn ddiogel.” Ac yn union wedi cyrraedd, aeth ato ef a dweud, “Rabbi,” a chusanodd ef. Rhoesant hwythau eu dwylo arno a'i ddal. Tynnodd rhywun o blith y rhai oedd yn sefyll gerllaw gleddyf, a thrawodd was yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd. A dywedodd Iesu wrthynt, “Ai fel at leidr, â chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn gyda chwi beunydd, yn dysgu yn y deml, ac ni ddaliasoch fi. Ond cyflawner yr Ysgrythurau.” A gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi. Ac yr oedd rhyw lanc yn ei ganlyn ef, yn gwisgo darn o liain dros ei gorff noeth. Cydiasant ynddo ef, ond dihangodd, gan adael y lliain a ffoi'n noeth. Aethant â Iesu ymaith at yr archoffeiriad, a daeth y prif offeiriaid oll a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion ynghyd. Canlynodd Pedr ef o hirbell, bob cam i mewn i gyntedd yr archoffeiriad, ac yr oedd yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr, yn ymdwymo wrth y tân. Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio tystiolaeth yn erbyn Iesu, i'w roi i farwolaeth, ond yn methu cael dim. Oherwydd yr oedd llawer yn rhoi camdystiolaeth yn ei erbyn, ond nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. Cododd rhai a chamdystio yn ei erbyn, “Clywsom ni ef yn dweud, ‘Mi fwriaf i lawr y deml hon o waith llaw, ac mewn tridiau mi adeiladaf un arall heb fod o waith llaw.’ ” Ond hyd yn oed felly nid oedd eu tystiolaeth yn gyson. Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed yn y canol, a holodd Iesu: “Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?” Parhaodd yntau'n fud, heb ateb dim. Holodd yr archoffeiriad ef drachefn, ac meddai wrtho, “Ai ti yw'r Meseia, Mab y Bendigedig?” Dywedodd Iesu, “Myfi yw, “ ‘ac fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod gyda chymylau'r nef.’ ” Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, “Pa raid i ni wrth dystion bellach? Clywsoch ei gabledd; sut y barnwch chwi?” A'u dedfryd gytûn arno oedd ei fod yn haeddu marwolaeth. A dechreuodd rhai boeri arno a rhoi gorchudd ar ei wyneb, a'i gernodio a dweud wrtho, “Proffwyda.” Ac ymosododd y gwasanaethwyr arno â dyrnodiau. Yr oedd Pedr islaw yn y cyntedd. Daeth un o forynion yr archoffeiriad, a phan welodd Pedr yn ymdwymo edrychodd arno ac meddai, “Yr oeddit tithau hefyd gyda'r Nasaread, Iesu.” Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf yn gwybod nac yn deall am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac aeth allan i'r porth. Gwelodd y forwyn ef, a dechreuodd ddweud wedyn wrth y rhai oedd yn sefyll yn ymyl, “Y mae hwn yn un ohonynt.” Gwadodd yntau drachefn. Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yn ymyl yn dweud wrth Pedr, “Yr wyt yn wir yn un ohonynt, achos Galilead wyt ti.” Dechreuodd yntau regi a thyngu: “Nid wyf yn adnabod y dyn hwn yr ydych yn sôn amdano.” Ac yna canodd y ceiliog yr ail waith. Cofiodd Pedr ymadrodd Iesu wrtho, fel y dywedodd, “Cyn i'r ceiliog ganu ddwywaith, fe'm gwedi i deirgwaith.” A thorrodd i wylo.

Marc 14:32-72 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra fyddwyf yn gweddïo. Ac efe a gymerth gydag ef Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristáu yn ddirfawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch. Ac efe a aeth ychydig ymlaen, ac a syrthiodd ar y ddaear, ac a weddïodd, o bai bosibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. Ac efe a ddywedodd, Abba, Dad, pob peth sydd bosibl i ti: tro heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: eithr nid y peth yr ydwyf fi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti. Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni allit wylio un awr? Gwyliwch a gweddïwch, rhag eich myned mewn temtasiwn. Yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan. Ac wedi iddo fyned ymaith drachefn, efe a weddïodd, gan ddywedyd yr un ymadrodd. Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a’u cafodd hwynt drachefn yn cysgu; canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau: ac ni wyddent beth a atebent iddo. Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid. Cyfodwch, awn; wele, y mae’r hwn sydd yn fy mradychu yn agos. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o’r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’r henuriaid. A’r hwn a’i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr. A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a’i cusanodd ef. A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a’i daliasant ef. A rhyw un o’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau ac â ffyn, i’m dala i? Yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y deml, ac ni’m daliasoch: ond rhaid yw cyflawni’r ysgrythurau. A hwynt oll a’i gadawsant ef, ac a ffoesant. A rhyw ŵr ieuanc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisgo â lliain main ar ei gorff noeth; a’r gwŷr ieuainc a’i daliasant ef. A hwn a adawodd y lliain, ac a ffodd oddi wrthynt yn noeth. A hwy a ddygasant yr Iesu at yr archoffeiriad: a’r holl archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a ymgasglasant gydag ef. A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac yr oedd efe yn eistedd gyda’r gwasanaethwyr, ac yn ymdwymo wrth y tân. A’r archoffeiriaid a’r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i’w roi ef i’w farwolaeth; ac ni chawsant. Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef; eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gyson. A rhai a gyfodasant ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn, gan ddywedyd, Ni a’i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall heb fod o waith llaw. Ac eto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gyson. A chyfododd yr archoffeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i’r Iesu, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Ac efe a dawodd, ac nid atebodd ddim. Drachefn yr archoffeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Crist, Mab y Bendigedig? A’r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod yng nghymylau’r nef. Yna yr archoffeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion? Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a’i condemniasant ef, ei fod yn euog o farwolaeth. A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a’i gernodio; a dywedyd wrtho, Proffwyda. A’r gweinidogion a’i trawsant ef â gwiail. Ac fel yr oedd Pedr yn y llys i waered, daeth un o forynion yr archoffeiriad: A phan ganfu hi Pedr yn ymdwymo, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Tithau hefyd oeddit gyda’r Iesu o Nasareth. Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i’r porth; a’r ceiliog a ganodd. A phan welodd y llances ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn un ohonynt. Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddywedasant wrth Pedr drachefn, Yn wir yr wyt ti yn un ohonynt; canys Galilead wyt, a’th leferydd sydd debyg. Ond efe a ddechreuodd regi a thyngu, Nid adwaen i’r dyn yma yr ydych chwi yn dywedyd amdano. A’r ceiliog a ganodd yr ail waith. A Phedr a gofiodd y gair a ddywedasai’r Iesu wrtho, Cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, ti a’m gwedi deirgwaith. A chan ystyried hynny, efe a wylodd.