Marc 14:1-9
Marc 14:1-9 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ychydig dros ddiwrnod oedd cyn y Pasg a Gŵyl y Bara Croyw. Roedd y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am esgus i arestio Iesu a’i ladd. Ond medden nhw, “Dim yn ystod yr Ŵyl, neu bydd reiat.” Pan oedd Iesu yn Bethania, aeth am bryd o fwyd i gartref dyn roedd pawb yn ei alw yn ‘Simon y gwahanglwyf’. Tra oedd Iesu’n bwyta daeth gwraig ato gyda jar alabaster hardd yn llawn o bersawr costus, olew nard pur. Torrodd y sêl ar y jar a thywallt y persawr ar ei ben. Roedd rhai o’r bobl oedd yno wedi digio go iawn – “Am wastraff!” medden nhw, “Gallai rhywun fod wedi gwerthu’r persawr yna am ffortiwn a rhoi’r arian i bobl dlawd.” Roedden nhw’n gas iawn ati hi. “Gadewch lonydd iddi,” meddai Iesu. “Pam dych chi’n ei phoeni hi? Mae hi wedi gwneud peth hyfryd. Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, a gallwch eu helpu nhw unrhyw bryd. Ond fydda i ddim yma bob amser. Gwnaeth hi beth allai ei wneud. Tywalltodd bersawr arna i, i baratoi fy nghorff i’w gladdu. Credwch chi fi, ble bynnag fydd y newyddion da yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd, bydd pobl yn cofio beth wnaeth y wraig yma hefyd.”
Marc 14:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd y Pasg a gŵyl y Bara Croyw ymhen deuddydd. Ac yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ddal trwy ddichell, a'i ladd. Oherwydd dweud yr oeddent, “Nid yn ystod yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.” A phan oedd ef ym Methania, wrth bryd bwyd yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, daeth gwraig a chanddi ffiol alabastr o ennaint drudfawr, nard pur; torrodd y ffiol a thywalltodd yr ennaint ar ei ben ef. Ac yr oedd rhai yn ddig ac yn dweud wrth ei gilydd, “I ba beth y bu'r gwastraff hwn ar yr ennaint? Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am fwy na thri chant o ddarnau arian a'i roi i'r tlodion.” Ac yr oeddent yn ei cheryddu. Ond dywedodd Iesu, “Gadewch iddi; pam yr ydych yn ei phoeni? Gweithred brydferth a wnaeth hi i mi. Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, a gallwch wneud cymwynas â hwy pa bryd bynnag y mynnwch; ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser. A allodd hi, fe'i gwnaeth; achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y gladdedigaeth. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani.”
Marc 14:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg, a gŵyl y bara croyw: a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef: Eithr dywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl. A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef. Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o’r ennaint? Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a’u rhoddi i’r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi. A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi. Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. Hyn a allodd hon, hi a’i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth. Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.