Marc 13:33-37
Marc 13:33-37 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Gwyliwch eich hunain! Cadwch yn effro! Dych chi ddim yn gwybod pryd fydd e’n digwydd. Mae fel dyn sy’n mynd i ffwrdd oddi cartref: Mae’n gadael ei dŷ yng ngofal ei weision ac yn rhoi gwaith penodol i bob un, ac mae’n dweud wrth yr un sy’n gofalu am y drws i edrych allan amdano. “Gwyliwch felly, am eich bod chi ddim yn gwybod pryd fydd perchennog y tŷ yn dod yn ôl – gall ddod gyda’r nos, neu ganol nos, neu’n gynnar iawn yn y bore, neu ar ôl iddi wawrio. Bydd yn dod heb rybudd, felly peidiwch gadael iddo’ch dal chi’n cysgu. Dw i’n dweud yr un peth wrth bawb: ‘Gwyliwch!’”
Marc 13:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei dŷ a rhoi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i'r porthor wylio. Byddwch wyliadwrus gan hynny—oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, ai gyda'r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore— rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a'ch cael chwi'n cysgu. A'r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: byddwch wyliadwrus.”
Marc 13:33-37 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser. Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i’w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i’r drysor wylio. Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai’r boreddydd;) Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a’ch cael chwi’n cysgu. A’r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.