Marc 13:24-27
Marc 13:24-27 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Ond bryd hynny, ar ôl yr argyfwng, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a’r lleuad yn peidio rhoi golau; bydd y sêr yn syrthio o’r awyr, a’r planedau yn ansefydlog.’ “Bryd hynny bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod mewn cymylau gyda grym ac ysblander mawr. Yna bydd yn anfon yr angylion i gasglu’r rhai mae wedi’u dewis o bob rhan o’r byd.
Marc 13:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y gorthrymder hwnnw, “ ‘Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch, syrth y sêr o'r nef, ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.’ “A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant. Ac yna'r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef.
Marc 13:24-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni, A sêr y nef a syrthiant, a’r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir. Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant. Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.